Afon Aled
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Conwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 198 metr |
| Cyfesurynnau | 53.2333°N 3.5833°W |
![]() | |
Afon fechan yn sir Conwy yw Afon Aled, sy'n llifo i lawr o'r bryniau i mewn i Afon Elwy.
Mae Afon Aled yn tarddu yn Llyn Aled ar Fynydd Hiraethog ychydig i'r de o bentref Llansannan. Mae'n llifo trwy Llyn Aled Isaf ac yna tua'r gogledd trwy Llansannan a Bryn Rhyd-yr-arian cyn cyfarfod Afon Elwy ychydig i'r dwyrain o bentref Llanfair Talhaearn.
Rheolir llif Afon Aled, a thrwy hynny i raddau Afon Elwy hefyd, gan gronfeydd Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.
Yn yr Oesoedd Canol dynodai'r afon y ffin rhwng cymydau Is Aled ac Uwch Aled.

