Pentre-llyn-cymmer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pentre-llyn-cymer)
Jump to navigation Jump to search
Pentre-llyn-cymmer
Pentre llyn Cymmer church - geograph.org.uk - 175961.jpg
Pentre-llyn-cymmer: hen gapel wedi cau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.061906°N 3.530353°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH974528 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)

Pentref bychan yng nghymuned Cerrigydrudion, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Pentre-llyn-cymmer[1] (hefyd Pentrellyncymmer, Pentre Llyn Cymmer ac amrywiadau eraill). Saif yng nghornel dde-ddwyreiniol y sir yn ardal wledig Uwch Aled, tua tair milltir i'r gogledd o bentref Gerrigydrudion ac mae'n rhan o gymuned Cerrigydrudion. Saif lle mae Afon Brenig yn llifo i Afon Alwen.

Ceir dwy gronfa ddŵr fawr gerllaw, Llyn Brenig ychydig i'r gogledd a Chronfa Alwen i'r gogledd-orllewin. Ceir Canolfan Addysg Awyr-agored yma.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Caer Ddunod yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ar lan Afon Alwen ger Pentre-llyn-cymer.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 25 Tachwedd 2021
CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.