Caer Ddunod
Math |
bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.0559°N 3.5157°W ![]() |
Cod OS |
SH985520 ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw |
DE076 ![]() |
Mae Caer Ddunod yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ar lan Afon Alwen ger Pentre-llyn-cymer yn Sir Conwy, Cymru; cyfeirnod OS: SH986520.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE076.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.