Afon Alwen
Jump to navigation
Jump to search
Afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Afon Alwen. Mae'n tarddu yn Llyn Alwen ar Fynydd Hiraethog yn sir Conwy ac yn llifo i Afon Dyfrdwy ger Cynwyd, Sir Ddinbych.
Cwrs[golygu | golygu cod y dudalen]
O Lyn Alwen, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i groesi'r A543 cyn cyrraedd Cronfa Alwen.
Yn fuan wedi gadael y llyn, llifa heibio Pentre-llyn-cymmer, lle mae Afon Brenig yn ymuno â hi, ac yn mynd ymlaen tua'r de-ddwyrain heibio Llanfihangel Glyn Myfyr a Betws Gwerful Goch cyn i Afon Ceirw ymuno â hi ychydig i'r dwyrain o bentref Maerdy. Mae Afon Alwen yn ymuno ag Afon Dyfrdwy ychydig i'r gogledd o bentref Cynwyd.
Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Coedydd Dyffryn Alwen, Sir Conwy, wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.