Afon Ceirw
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 207 metr |
| Cyfesurynnau | 52.96667°N 3.46667°W |
![]() | |
Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Ceirw. Ei hyd yw tua 14 milltir.[1]
Llwybr yr afon
[golygu | golygu cod]Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau yn ardal Uwch Aled rhwng Carnedd y Filiast (2194') a Garn Prys (1747') yn ne sir Conwy, tua 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion. Ar ôl llifo i gyfeiriad y dwyrain mae'n troi i'r de-ddwyrain ger Cerrigydrudion ac yn llifo'n gyfochrog â lôn yr A5 heibio i bentrefi bychain Llangwm a'r Maerdy ac ymlaen i'r Ddwyryd yn Sir Ddinbych. Rhai milltiroedd ar ôl hynny mae hi'n llifo i Afon Alwen ger Corwen.[1]
Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o geirw ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru.

