Afon Grannell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Golygfa ar yr afon oddi ar bont ger Llanwnnen

Afon fer yng Ngheredigion yw Afon Grannell. Mae hi'n tarddu ger Castell Moeddyn ac yn llifo sawl milltir i'r de-ddwyrain, yn pasio agos at Gribyn, i ymuno ag Afon Teifi ger Llanwnnen. Cyfeirnod grid y tarddiad yw SN521511. Lleoliad ei haber ar Afon Teifi yw SN534462, rhwng saith ac wyth milltir o'i tharddiad (ar hyd llinell syth, heb gyfrif troadau'r afon).

Mae sawl isafon gyda'r afon, ac mae'r dalgylch cyfan ym ymestyn o fryn ger Rhos Ymryson yn y gorllewin i fryn ger Dihewyd yn y gogledd, yn ogystal â Llanwnnen yn y de-ddwyrain.

Mae'r afon yn rhoi ei henw i Egni Cymunedol Grannell, prosiect i godi twrbein gwynt ar fryn rhwng Llanwnnen a Chribyn, er mwyn darparu egni at dua 280 o gartrefi. Mae'r caniatadau a'r ariannu wedi cael eu sicrhau, a bwriedir cychwyn ym mis Awst 2019.

Dolen allannol[golygu | golygu cod y dudalen]