Neidio i'r cynnwys

Egni gwynt

Oddi ar Wicipedia
Egni gwynt
Enghraifft o:adnodd adnewyddadwy, nodwedd Edit this on Wikidata
Mathynni amgen, ynni adnewyddadwy, sector economaidd, ynni cynaliadwy Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01phdl edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF35634 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pan fo gwynt yn troi llafnau twrbein mae'r generadur yn cynhyrchu trydan, a gelwir yr egni hwn yn egni gwynt.

Caiff egni gwynt ei ddisgrifio fel egni cynaliadwy sy'n lanach na'r dulliau traddodiadol o gynhyrchu trydan: tanwydd ffosil, boed yn olew neu'n danwydd niwclear neu arall. Mae gwynt yn lân, ceir digon ohono ac nid yw'n cynhyrchu carbon deuocsid.

Un o ffermydd gwynt mwyaf Ewrop yw Gwynt y Môr sydd ychydig gilometrau o arfordir Prestatyn.

Mae dyn yn defnyddio egni gwynt ers ganrifoedd: er mwyn teithio ar longau hwylio neu mewn balŵn neu er mwyn ei helpu gyda'i waith, er enghraifft melinau gwynt i bwmpio dŵr neu i falu blawd. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r gwynt i gynhyrchu egni trydanol. Cysylltir ffermydd gwynt gyda'r Grid Cenedlaethol a gellir gwerthu trydan iddynt. Mae dau fath: ffermydd arfordirol a ffermydd ar y tir mawr. Er bod yn well gan bobl i'r ffermydd gael eu lleoli ar y môr, mae'r math hwn yn dipyn drytach na ffermydd ar y tir.[1]

Dros gyfnod o flwyddyn mae cyflymder a chryfder y gwynt yn eitha cyson, ond yn y tymor byr, gall fod yn eitha anghyson: heb ddim gwynt ar adegau. Caiff ei ddefnyddio, felly, ochr yn ochr gyda ffynonellau cynaliadwy eraill e.e. paneli solar neu hydro-drydan.

Erbyn 2015 roedd Denmarc yn cynhyrchu 40% o'i holl drydan drwy harneisio egni gwynt,[2][3] ac mae o leiaf 83 o wledydd ledled y byd yn cynhyrchu rhywfaint o drydan drwy egni gwynt ac yn ei drwosglwyddo i'w gridiau cenedlaethol.[4] Mae cyfanswm y byd yn cynyddu'n flynyddol, ac erbyn 2015 roedd 4% o drydan yn cael ei gynhyrchu gan y gwynt.[5] 11.4% yn yr Undeb Ewropeaidd.[6]

Capasiti y pen gwledydd y byd; cyfansymiau 2024

[golygu | golygu cod]

Mae'r siart hon yn nodi safle gwledydd y byd yn ôl capasiti y pen o drydan a gynhyrwyd gan ynni gwynt; cyfansymiau 2024:[7]

Capasiti ynni gwynt fesul poblogaeth (data diweddaraf)
Safle Gwledydd Capasiti Ynni Gwynt (GigaWatt; GW) Poblogaeth (miliwn) GW y filiwn o bobl
1  Yr Alban ~12.4 ~5.5 2.25
2  Sweden ~17.3 ~10.6 1.63
3  Denmarc ~8.7 ~5.9 1.48
 Gogledd Iwerddon
(rhanbarth)
~1.33* ~1.93 0.69
4  Netherlands ~11.7 ~17.5 0.67
5  Sbaen ~31.8 ~47.6 0.67
6  Cymru ~2.03 ~3.1 0.65
7  Canada ~18.4 ~39.6 0.46
8  Unol Daleithiau America ~153.2 ~347.3 0.44
9  Ffrainc ~24.6 ~66.7 0.37
10  Gweriniaeth Pobl Tsieina ~521.7 ~1,416.1 0.37
11  Gwlad Pwyl ~10.1 ~38.2 0.26
12  Lloegr ~14.1 ~56.0 0.25
13  Yr Eidal ~12.9 ~59.1 0.22
14  Twrci ~12.9 ~87.7 0.15
15  Brasil ~33.0 ~212.8 0.16
16  India ~48.2 ~1,463.9 0.03

Codwyd y tyrbin cynhyrchu trydan cyntaf yn yr Alban gan yr Athro James Blyth, Coleg Anderson, Glasgow yn 1887.[8] 10 metr oedd uchder y felin wynt a llieiniau cotwm ar yr hwyliau a chodwyd y felin yng ngardd gefn ei dŷ gwyliau yn Marykirk yn Kincardineshire a chasglwyd y trydan mewn batris arbennig a grewyd gan y Ffrancwr Camille Alphonse Faure. Defnyddiodd y trydan i oleuo'r tŷ.[8]

Mathau gwahanol o felinau gwynt
Melin wynt draddodiadol ar Ynys Môn: Melin Llynnon.
Melin wynt draddodiadol ar Ynys Môn: Melin Llynnon. 
Llafnau enfawr melin wynt modern yn Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc.
Llafnau enfawr melin wynt modern yn Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc. 
Melin wynt ger Castell Newydd Emlyn, Cymru.
Melin wynt ger Castell Newydd Emlyn, Cymru. 
Twrbein sy'n arnofio 5km o arfordir Portiwgal.
Twrbein sy'n arnofio 5km o arfordir Portiwgal. 

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gipe, Paul (1993). "The Wind Industry's Experience with Aesthetic Criticism". Leonardo 26 (3): 243–248. doi:10.2307/1575818. JSTOR 1575818. https://archive.org/details/sim_leonardo_1993_26_3/page/243.
  2. Denmark breaks its own world record in wind energy
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-25. Cyrchwyd 2016-03-23.
  4. REN21 (2011). "Renewables 2011: Global Status Report" (PDF). t. 11. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-06-19. Cyrchwyd 2016-03-23.
  5. The World Wind Energy Association (2014). 2014 Half-year Report. WWEA. tt. 1–8.
  6. Wind in power: 2015 European statistics- EWEA
  7. [https://www.visualcapitalist.com/top-countries-by-wind-power-capacity-in-2024/ visualcapitalist.com; adalwyd 22 Ionawr 2025.
  8. 1 2 Price, Trevor J (3 Mai 2005). "James Blyth – Britain's First Modern Wind Power Engineer". Wind Engineering 29 (3): 191–200. doi:10.1260/030952405774354921. Archifwyd o y gwreiddiol ar 6 Mehefin 2011. https://web.archive.org/web/20110606102707/http://www.ingentaconnect.com/content/mscp/wind/2005/00000029/00000003/art00002.