Powdr a gynhyrchir drwy falu grawnfwyd, hadau eraill neu wreiddiau yw blawd neu fflwr. Dyma yw prif gynhwysyn bara, sy'n prif fwyd nifer o wareiddiadau, gan wneud argaeledd digonedd o flawd yn destun economaidd a gwleidyddol o bwys ar nifer o adegau drwy gydol hanes.