Bara

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Basgediad o rôls (neu rholiau) bara
Pobi bara mewn hen ffwrn yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant; Ionawr 1955.

Gwneir bara, sy'n fwyd poblogaidd iawn, o does wedi'i bobi. Mae toes yn cynnwys blawd a dŵr, ac yn aml halen, a burum i godi'r bara. Mae llawer o wahanol fathau o fara o lawer o wledydd gwahanol. Bwyteir bara ers cychwyn amaethyddiaeth, filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Gelwir y math arferol yn "dorth" – telpyn cymharol fawr – a cheir torthenni wedi'u gwneud o flawd mâl ac o flawd cyflawn. Ceir mathau llai hefyd, fel rholiau fel y Brioche a gall eu gwead (texture), eu blas, eu maint a'u cynnwys amrywio'n fawr. Ceir mathau hir hefyd, fel y Baguette o Ffrainc, sydd tua 65 centimetr (26 mod) o hyd. Cymysgir y blawd a'r dŵr yn does; defnyddir burum neu bowdr codi fel arfer i godi'r toes, er bod rhai mathau'n ddi-furum (bara croyw). Defnyddir bara croyw mewn seremoniau crefyddol fel y Cymun Cristnogol a cheir nifer o ymadroddion am fara yn y Beibl: "Nid ar fara'n unig y bydd byw dyn", neu "wrth chwys dy wyneb y bwytei dy fara". Mae nifer o dechnegau modern o wella'r bara ar gyfer ei werthu gan gynnwys ei roi dan bwysau eithriadol i greu'r swigod neu ychwanegu cemegolion i wella'r blas, ei wead, ei liw neu ei brisyrfio. Ychwanegir ffrwythau, cnau a saim ar adegau e.e. bara brith.

Defnyddir briwsion bara i wneud stwffin a gellir pobi tafellau o fara i wneud pwdin bara. Y dull amlaf o'i wyta yn y Gorllewin yw ar ffurf brechdanau, sef tafelli o fara, gydag jam, menyn, gaws neu enllyn arall rhwng y ddau damed o fara. O grasu'r bara, ceir tost. Sonir am grasu bara yn chwedl Llyn y Fan Fach: "Cras dy fara, nid hawdd fy nala".

Yn ffigyrol, caiff y gair ei ddefnyddio am fwyd, pryd o fwyd, cynhaliaeth, ffon cynhaliaeth neu fywoliaeth person.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair "bara" o'r Frythoneg "baragi" a'r Gelteg "baregi", ac fe'i ceir yn yr Hen Gernyweg a'r Llydaweg 'bara', Hen Wyddeleg: "bairgen". "Bara" hefyd yw'r gair lluosog.[1]

Mae'r cofnod Cymraeg cynharaf i'w gael yn:

  • 13g: Llyfr Iorwerth 64: "Sef mal e rennyr e punt honno: chue ugeynt e’r bara a thry ugeynt e'r llyn". Ac eto: "chue thorth arrugeynt o'r bara goreu".
  • 14g: Llyfr Iorwerth 69: "deudec torth o vara bychein (tenuibus panibus), a dwy torth o vara mawr peilleit".
  • 1346: Llyfr Iorwerth 22: "Paham y gwnneir y gorff ef or bara. Ae waet or gwin".

Mae'r gair "torth", ar y llaw arall, yn fenthyciad o'r Lladin, "torta", ac fe'i ceir mewn Cernyweg Canol 'torth' ac mewn Llydaweg Canol "torz" a Gwyddeleg Canol "tort".

Mathau o fara[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bara Mate
Pan oeddwn yn blentyn yn Llwyncelyn, Brynberian roedd fy mam yn pobi Bara Mate. Roedd yn talu dyn i dorri'r mate (y donnen o fawn ar wyneb y gors) ar y mynydd, yna fyddai yn eu codi yn sawl crit i'w sychu. Ar ôl iddynt sychu fe fyddent yn cael eu cludo i'r ydlan a'u gvneud yn das a'u toi â brwyn. Pan fyddai fy mam yn mynd i bobi byddai yn cymryd pump neu chwe maten o'r das a'u rhoi at ei gilydd a'u cynnau. Ar ôl iddynt gochi byddai yn eu hagor er mwyn dodi'r ffwrn yn y canol, yna rhoi'r dorth yn y ffwrn a'i chau ā'r clawr a dodi'r mate nol drosti. Dyna'r bara gorau brofais i erioed. Roedd fy mam yn pobi tarten yr un modd.

Tybed beth fyddai gair y gogledd am mate (matiau), sef y donnen o fawn ar wyneb y gors. [2]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) adalwyd 6 Mawrth 2016
  2. Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhifyn 70[1]
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am bara
yn Wiciadur.