Brecwast
Math | pryd o fwyd |
---|---|
Olynwyd gan | cinio canol dydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brecwast, neu weithiau borefwyd, yw pryd o fwyd sy'n rhagflaenu cino canol dydd neu cinio ac fel arfer yn cael ei fwyta yn y bore.
Ceir y defnydd cynharaf o'r term yn y Gymraeg yn y 16g fel gwahanol sillafiadau Cymreig o'r 'breakfast' Saesneg. Yn 1753 y ceir y cyfnod cynharaf o'r Cymreigiad a'r ynganiad cyfoes, 'brecwast' gydag 'w' yn disodli'r sain 'ff'.[1]
Brecwastau nodweddiadol yn ôl rhanbarthau'r byd
[golygu | golygu cod]Ynysoedd Prydain ac Iwerddon
[golygu | golygu cod]Mae powliad o uwd yn boblogaidd o hyd yn yr Alban.
Yn Iwerddon, gall brecwast Gwyddelig gynnwys pwdin gwyn, bara soda, ac yn Ulster, farlau soda a farlau tatws.
Ffrainc
[golygu | golygu cod]Nid yw brecwast yn bryd o fwyd pwysig yn Ffrainc. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn bodloni ar bowliad mawr o goffi ffres cryf (neu siocled neu te), yn aml heb lefrith, gyda croissant neu tafell (sleisiad) o fara menyn a siam.
Gwlad Groeg
[golygu | golygu cod]Yng ngogledd Gwlad Groeg caiff pasteiod o'r enw bugatsa eu bwyta efo coffi Groegaidd.
UDA a Chanada
[golygu | golygu cod]Mae crempog ac omlet yn ffordd draddodiadol o gychwyn y dydd mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a Chanada.
Israel ac Iddewon Irac
[golygu | golygu cod]Yn draddodiadol ar y Saboth byddai Iddewon Irac yn bwysta bryd oer syml o wylys, tatws ac ŵy wedi ferwi'n galed gan nad oedd hawl coginio ar y Sabath yn ôl eu crefydd. Wedi eu herlid i symud i Israel yn yr 1040au a'r 1950au, datblygodd y pryd syml yma i'w weini mewn bara pita a'i erthi o ciosgs bwyd fel Sabich.
Diodydd
[golygu | golygu cod]Mae diodydd cyffredin yn cynnwys suddion ffrwyth (Sudd oren, sudd afal, sudd grawnffrwyth, ayyb), llaeth, te, a choffi.
Dathliadau a gwyliau pwysig
[golygu | golygu cod]Yn ystod Ramadan, gelwir Mwslemiaid y pryd ar ôl machlud haul sy'n torri'r ympryd yn (Iftar).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "brecwast", GPC