Crempog

Oddi ar Wicipedia
Crempog Ffrengig (crêpe) digon tebyg i'r crempog traddodiadol Cymreig

Math o fwyd a wneir gyda wyau, blawd, menyn, a llaeth ydy Crempog (neu ffroesen); enw gwrywaidd. Mae'n grwn oherwydd siâp y badell ffrio y caiff ei ffrio ynddi, ac mae'n denau ac yn fflat. Yn aml iawn, caiff crempog ei goginio ar Ddydd Mawrth Ynyd. Mae'n gyffredin i ychwanegu rhywbeth arall ato i wella blas y crempog: lemwn fel arfer neu jam, syryp neu'r saws siocled Nutella.

Ceir cân werin draddodiadol sy'n cyfeirio at y crempog, sef:

Modryb Elin Enog:
Os gwelwch chi'n dda ga i grempog?
Mae 'ngheg i'n grimp am grempog.
Mae Mam yn rhy dlawd i brynu blawd
A 'mrawd yn rhy ddiog i nôl y triog,
A 'nhad yn rhy wael i weithio.
Os gwelwch yn dda ga i grempog.

Yr un cymysgedd a ddefnyddir i wneud ei chwaer Ffrengig sef y Crêpe (Llydewig eu gwreiddiau, ond saig genedlaethol Ffrainc gyfan erbyn heddiw), ond fod hwnnw'n deneuach ac wedi'i wneud gyda blawd gwenith; mae'r galette (Llydaweg: Krampouezhenn gwinizh du) hefyd yn debyg: crempog denau allan o flawd gwenith yr hydd.

Ceir hefyd dywediad ar lafar sy'n cynnwys y gair: "yn fflat fel crempog."

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.