Crêpe

Oddi ar Wicipedia
Pentwr o grêpes

Math o grempog (Llydaweg: krampouezh) tenau iawn yw crêpe neu grép, fel arfer wedi ei wneud o flawd gwenith neu wenith yr hydd. Mae'r gair o darddiad Ffrengig, yn deillio o'r Lladin crispa, yn golygu "cyrliog". Er fod crêpes yn cael eu cysylltu fel arfer gyda Llydaw, gwlad yng ngogledd-orllewin Ffrainc, maent yn cael eu bwyta'n helaeth ar draws Ffrainc, Gwlad Belg, Quebec a sawl ardal arall yn Ewrop a Gogledd Affrica. Y crép symlaf yw hwnnw gyda siwgwr yn unig oddi fewn iddo, i'w flasu, a cheir mathau mwy amheuthun e.e. crép flambé, crêpes Suzette neu galetts sawrus.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]