Te

Oddi ar Wicipedia
Te
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Theaceae
Genws: Camellia
Rhywogaeth: C. sinensis
Enw deuenwol
Camellia sinensis
(L.) Kuntze

Diod wedi ei wneud o ddail Camellia sinensis a dŵr poeth sydd yn cynnwys caffein yw te. Gall hefyd gynnwys llysiau, ffrwythau nei sbeisiau i roi blas iddo. Yng ngwledydd Prydain, caiff ei yfed gyda llefrith/llaeth fel arfer, ac weithiau gyda siwgr, ond mewn mannau eraill mae pobl yn ei yfed heb lefrith/laeth, ac efallai gyda lemwn. Mae'r gwledydd sydd yn cynhyrchu te yn cynnwys Tsieina, India, Pacistan, Sri Lanca (a elwir yn Ceylon ar becynnau te), Taiwan (Formosa), Rwsia, Siapan, Nepal, Awstralia, Yr Ariannin a Cenia.

Mae Glengettie yn de wedi ei wneud i'r farchnad Gymreig, gydag ysgrifen Cymraeg a Saesneg ar ei focsys.

Mae mathau o de hefyd yn bodoli nad ydynt yn cynnwys dail Camellia siniensis, megis te ffrwythau.

Mathau o de[golygu | golygu cod]

Cymraes ifanc yn yfed te tua 1885.

I wneud te mae'n rhaid sychu dail Camellia sinensis yn gyflym er mwyn eu rhwystro rhag ocsideiddio. Ffurf o eplesiad yw'r cam nesaf. Ar gyfer te, mae eplesiad yn golygu sychu'r dail ymhellach trwy eu cynhesu nhw. Mae pedwar math o de:

  • Te gwyn sydd yn cael ei wneud o ddail ifanc iawn a heb ei ocsideiddio o gwbl. Does dim llawer o gloroffyl ynddynt.
  • Te gwyrdd lle mae'r broses ocsideiddio wedi ei atal yn gyflym drwy cynhesu'r dail. Yn Japan, defnyddir stêm i wneud hynny, ac yn Tsieina, padell boeth.
  • Ŵlong (Tsieineeg: 烏龍茶/乌龙茶 wūlóngchá) sydd rhwng te gwyrdd a the du.
  • Te du lle mae'r broses ocsideiddio wedi parhau.

Termau cyffredin[golygu | golygu cod]

Termau cyffredin ar gyfer te sydd yn cael eu defnyddio ar becynnau yw:

  • BOP - Broken Orange Pekoe. Mae'n dod o Sri Lanca (Ceylon), De India, Java a Tsieina.
  • BP - Broken Pekoe. Te brown-ddu, yn bennaf o Indonesia, Sri Lanca a De India.
  • BPS - Broken Pekoe Souchong. Assam a Darjeeling, dail crwm.
  • Broken - Dail wedi eu torri, sef dail bychain.
  • Dust - Llwch te, defnyddir mewn bagiau te.
  • Fannings - Llwch te, defnyddir mewn bagiau te.
  • FBOP - Flowery Broken Orange Pekoe. Te toredig gyda nifer o flaenau. Mae'n dod o Assam, Tsieina, Indonesia a Bangladesh.
  • FOP - Flowery Orange Pekoe. Mae'n dod o India'n bennaf.
  • FTGFOP1 - Finest Tippy Golden Flowery Orange Pekoe. Darjeeling yn bennaf, ond gall gynnwys Assam. Yn flaeniog iawn.
  • GBOP - Golden Broken Orange Pekoe. Dim mor flaeniog a FTGFOP1.
  • GFBOP - Golden Flowery Broken Orange Pekoe. Mae'n dod o Assam yn bennaf.
  • GFOP - Golden Flowery Orange Pekoe. Te gradd uwch sy'n dod o Cenia.
  • OP - Orange Pekoe. Te sylfaenol sydd yn dod o Sri Lanca neu Java. Dail all fod yn hir a chaled.
  • OP Sup. - Orange Pekoe Superior. Blaeniog, mae'n dod o Indonesia'n union.
  • Pekoe - Dail ifanc, ond yn wahanol iawn i Orange Pekoe.
  • SFTGFOP - Special Finest Tippy Golden Flowery Orange Pekoe Te gradd uwch.
  • TGBOP - Tippy Golden Broken Orange Pekoe. Te toredig sy'n dod o Darjeeling neu Assam.
  • TGFOP - Tippy Golden Flowery Orange Pekoe. Te sylfaenol sydd yn dod o Darjeeling neu Assam.
  • Tippy/Tip - Blaenau'r dail sydd dim yn troi'n ddiod mor ddu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am te
yn Wiciadur.