Bara brith

Oddi ar Wicipedia
Bara brith
Mathfruit bread, bwyd Edit this on Wikidata
Label brodorolbara brith Edit this on Wikidata
Rhan oCoginiaeth yr Ariannin, Coginiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbaker's yeast Edit this on Wikidata
Enw brodorolbara brith Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bara brith

Bara llaith o Gymru sy'n cynnwys cyrens, rhesins neu syltanas, croen candi, a sbeis melys yw bara brith. Gweinir yn dafellau gyda menyn gan amlaf, am de'r prynhawn neu de mawr. Teisen furum yw bara brith yn draddodiadol, ond mae nifer o ryseitiau modern yn defnyddio ychwanegion megis soda pobi i'w lefeinio.[1]

Yn wreiddiol câi bara brith ei pharatoi ar ddiwrnod pobi bara trwy ychwanegu siwgr, bloneg, ffrwythau sych a sbeis at does. Yn raddol, datblygodd y cymysgedd yn un fwy cyfoethog a defnyddiwyd burum i'w godi. Daeth y torth yn deisen amser te ar gyfer achlysuron arbennig mewn cymunedau amaethyddol a diwydiannol, megis y cynhaeaf gwair neu lafur, diwrnod dyrnu neu gneifio, a'r Nadolig.[2] Yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain yr enw arni yw teisen dorth.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alan Davidson. The Oxford Companion to Food, 3ydd argraffiad (gol. Tom Jaine; Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t. 62.
  2. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 2.
  3. John Davies et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 66 [BARA BRITH].