Coginiaeth yr Ariannin

Oddi ar Wicipedia
Asado de vaquilla con cuero

Cyfuniad o fwydydd ac arferion yr Hen Fyd a'r Byd Newydd yw coginiaeth yr Ariannin. Pryd o dair rhôl felys (medialunas) a choffi, megis yr arfer Ffrengig, yw'r brecwast cyffredin. Pennir adegau bwyta gan y traddodiad Sbaenaidd, hynny yw cinio canol dydd a swper wedi 9 y.h. sy'n cynnwys seigiau Eidalaidd. Amlygir blasau America Ladin gan gig eidion ar y gridyll, sy'n fwy poblogaidd o lawer na chigoedd eraill.[1]

Ceir tri chwrs efo gwin a dŵr yn aml am ginio a swper, ac weithiau coffi neu de dail i orffen. Am gwrs cyntaf gweinir seigiau ysgafn megis pionono, empanada, vitel tone, matambre a primavera. Nodweddiadol o goginiaeth America Ladin yw seigiau'r ail gwrs: tortila, milanesa, churrasco, asado de tira, salchicha a chorizo, a mondongo, ac hefyd bwydydd Eidalaidd megis y ñoquis.

Y ddau prif fath o fwyty sy'n gweini ciniawyr Archentaidd yw'r restaurante cyffredin a'r parrilla sy'n arbenigo mewn cig wedi ei rostio ar y gridyll. Y parrilla neu'r asador yw'r enw a roddir i'r gridyll ar gyfer y ddau fath o gig: rhostio tameidiau o gig o bob math uwchben tân yw parillada; hanner oen neu weithiau gafr wedi ei rhostio o flaen tân ar fath o groes haearn yw’r asado. Yn aml iawn mewn parrilla ceir tenedor libre (fforc rydd): bwrdd yn llawn salad i’w fwyta cyn y cig. Adnabyddir Buenos Aires am ei stecdai, yr asados criollos.[1]

Bwyd y môr[golygu | golygu cod]

Y prif fathau o bysgod a fwyteir yn yr Ariannian yw cegddu, eog, lleden, brithyll, ysbinbysg y môr, penfras, tiwna a mecryll. Ymysg y pysgod cregyn poblogaidd mae berdys, corgimwch, cranc, cimwch a chregyn gleision. Bwyteir hefyd octopws a môr-lawes.

Pwdinau[golygu | golygu cod]

Dant melys sydd gan yr Archentwr fel rheol. Jam llaeth sy'n gynhwysyn i lawer o bwdinau a theisennau'r wlad. Ymhlith y blasau poblogaidd o hufen iâ mae almendrado (plaen ag almon mâl), bombón escocés neu suizo (mewn cas o siocled) a Don Pedro (mewn wisgi gyda hufen a chnau ac weithiau jam llaeth). Gwneir cacen ddu yn draddodiadol gan drigolion y Wladfa.

Diodydd[golygu | golygu cod]

Mate i mewn mate o porongo

Diod frodorol o'r enw maté, a wneir o ddail yerba maté, sy'n boblogaidd yng nghefn gwlad. Fe'i yfir o gowrd drwy hidlen, naill ai gan yfwr ar ben ei hun neu wedi ei rannu mewn defod gymdeithasol.[1]

Mae'r Ariannin yn fyd-enwog am ei gwin, yn enwedig gwin coch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]