Cynaeafu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cynhaeaf)
Cynaeafu ar fferm yn Nyffryn Teifi, tua 1954
Cynaeafu cnwd yn Volgograd Oblast, Rwsia

Cynaeafu yw'r broses o gasglu cnwd aeddfed ynghyd o gae neu gaeau amaethyddol. Medi yw'r broses o dorri'r grawn neu'r llysiau ar gyfer y cynhaeaf, gan amlaf gan ddefnyddio cryman.[1] Dynoda'r cynhaeaf ddiwedd y cyfnod tyfu, neu'r cylch tyfu ar gyfer cnwd penodol, a gwna hyn y tymor hwn yn ffocws ar gyfer dathliadau tymhorol megis gŵyl gynhaeaf, a welir mewn nifer o grefyddau. Ar ffermydd bychain heb lawer o beiriannau mecanyddol, mae cynaeafu yn un o gyfnodau mwyaf corfforol y tymor tyfu. Ar ffermydd mawrion, defnyddir y peiriannau amaethyddol drytaf a mwya soffistogedig, fel y dyrnwr medi.


Gwair[golygu | golygu cod]

Diwedd Tachwedd 1935: “Torri orfanc* yn das wair hefo cyllell wair a chario pedair tringlen o'r gwair i'r beudai. Tywydd glawog oer ias y gaeaf.”[2]

Geirfa[golygu | golygu cod]

Gorfainc* ydi y silff mae rywun yn eu greu drwy dorri ar i lawr i das wair efo cyllell wair a chario’r gwair ymaith fesul “trenglan” i’r beudy gerllaw i fwydo’r gwartheg. Byddai’r orfainc yn mynd yn is ac yn is wrth i rywun gymeryd trenglan ar ôl trenglan (neu dafell ar ôl tafell) o wair o’r das. Gelwid ‘cefn’ yr orfainc, sef y ddwy wal (fertigol) o wellt yn ‘fagwyr’ (ll. ‘magwyrydd’) mae’r magwyrydd ar 90° i’w gilydd (meddylia am gymeryd blocyn sgwar allan o gornel cacen frith). Pan yn blentyn roedd yr awdur wrth ei fodd yn dringo’r ystol i’r orfainc – roedd o’n llwyfan cyfleus, cynnes a chysgodol i chwarae (a disgyn i gysgu weithiau). Ond os byddid yn eistedd efo nghefn ar y fagwyr yn darllen comic mi oedd honno braidd yn galed a phigog.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (2000) American Heritage Dictionary, 4th ed., Boston: Houghton Mifflin Co. ISBN 0-618-08230-1
  2. Dyddiadur DO Jones 1935 yn Nhywyddiadur Gwefan Lleen Natur
  3. TE ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53[1]
Chwiliwch am Cynaeafu
yn Wiciadur.