Egni solar
Gwedd
| Enghraifft o: | math o egni |
|---|---|
| Math | ynni adnewyddadwy, ynni cynaliadwy, adnodd naturiol |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06xbd |
| Thesawrws y BNCF | 4759 |
Pelydriad electromagnetig sydd yn dod o'r haul yw egni solar neu egni'r haul. Mae planhigion yn ei ddefnyddio i greu ffotosynthesis ac ers rhai blynyddoedd mae dyn yn ei ddefnyddio fel ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan mewn tair ffordd wahanol:
- celloedd solar: drwy baneli ffotofoltaidd sy'n cynhyrchu trydan.
- ffwrnais solar: defnyddir rhesi o ddrychau crwm i ffocysu pelydrau'r haul ar un man i gynhyrchu tymheredd uchel iawn a throi dŵr yn ager i yrru tyrbein sy'n creu drydan.
- paneli solar: drwy banel o bibellau'n cynnwys hylif sy'n cael ei gynhesu ac yn ei dro'n cynhesu dŵr neu wres y tŷ.
Yn wahanol i'r broses o greu ynni anadnewyddawy, ni cheir llygredd, nid oes raid talu am danwydd a gellir ei wneud ar raddfa fechan iawn. Yr anfanteision yw fod angen llawer o dir neu ddŵr, gall ddifetha'r golygfeydd naturiol ac mae'n ddibynol ar anwadalwch y tywydd.
