Richard James Thomas
Richard James Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1908 ![]() Caerdydd ![]() |
Bu farw | 1976 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | geiriadurwr ![]() |
Geiriadurwr o Gymro oedd Richard James Thomas (1908–1976), a adnabyddir gan amlaf fel R. J. Thomas.
Ganed R. J. Thomas yng Nghaerdydd yn 1908 a chafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Ar ôl blynyddoedd o brofiad fel darllenydd (rhywun sy'n hel enghreifftiau o eiriau), ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ac yn y flwyddyn 1947 fe'i apwyntiwyd yn olygydd. Daliodd y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1975. Bu farw flwyddyn ar ôl hynny, yn 1976.
Roedd yn un o'r prif arbenigwyr ar enwau lleoedd Cymraeg. Ffrwyth ei ymchwil yn y maes yw'r gyfrol Enwau afonydd a nentydd Cymru (1938). Erys y gyfrol hon - sy'n cynnwys astudiaethau manwl o eirdarddiad rhai cannoedd o afonydd a nentydd Cymreig - y prif waith safonol ar y pwnc hyd heddiw.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Enwau afonydd a nentydd Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938). Ceir argraffiad diweddarach hefyd.