Neidio i'r cynnwys

Cwmtydu

Oddi ar Wicipedia
Cwmtydu
Mathpentrefan, traeth, cildraeth, bae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCeinewydd Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.191482°N 4.406732°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref a bae bychan yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, yw Cwmtydi, sy'n gorwedd ar lan y môr rhai milltiroedd i'r de o dref fechan Ceinewydd. Yma mae aber Afon Ffynnon Ddewi. Ceir hen odyn galch i lawr wrth y traeth.

Arwydd ffordd

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Llwyndafydd, Caerwedros a Nanternis. Mae un o'r ddwy ffordd i lawr i'r bae yn mynd drwy Lwyndafydd lle saif hen blasty Neuadd Llwyn Dafydd. Yno, ar 10 Awst 1485, ar ei ffordd i Faes Bosworth, cododd Harri Tudur wersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn Llwyndafydd.[1] Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau (o Ffrainc neu Lydaw) yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi. Mae'n bosib mai'r enw 'Tudur' yw tarddiad enw'r pentref.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. google.co.uk; Gweler: Bosworth: The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore. sillefir Llwyndafydd yma fel 'Llwyn Dafydd'. Adalwyd 6 Awst 2020.