Cefn Digoll
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tre-wern, Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Uwch y môr | 408 metr |
Cyfesurynnau | 52.65°N 3.07°W |
Amlygrwydd | 305 metr |
Bryn 381 m yng ngogledd-ddwyrain Powys yw Cefn Digoll neu Mynydd Digoll (Saesneg: Long Mountain). Saif rhwng afon Hafren a'r ffin â Swydd Amwythig yn Lloegr. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Gorddwr, a oedd yn rhan o deyrnas Powys.
Hanes
[golygu | golygu cod]Rhedai ffordd Rufeinig ar hyd y bryn hir.
Bu'n fan allweddol iawn yn hanes Harri Tudur. Glaniodd Harri yn Sir Benfro ar 7 Awst 1485 gyda byddin fechan o Lancastriaid alltud a Ffrancod, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, a ger Cefn Digoll ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Erbyn hyn roedd ganddo fyddin o tua 5,000. Aeth yn ei flaen i drechu Rhisiart II o Loegr ar Faes Bosworth.