Gaer Fawr, Cegidfa
Math |
caer lefal ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Powys ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.7093°N 3.15°W ![]() |
Cod OS |
SJ2241013050 ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw |
MG006 ![]() |
Mae Gaer Fawr yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Cegidfa, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SJ224130.
Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r Gaer Fawr a'i seiliau'n ddwfn yn Oes yr Haearn.[1] Saif ar gopa bryncyn tua 213 metr uwchlaw lefel y môr, tua 5.4 kilometr i'r gogledd o'r Trallwng. Siap hirgrwn sydd i'r gaer ac mae hi wedi'i gorchuddio tan goed.[2]
Mae arwynebedd y gaer oddeutu 5.8 ha[2] wedi'u hamlinellu gan y cloddiau allanol - sydd wedi'u cadw'n arbennig o dda dros y canrifoedd. Ar adegau mae'r cloddiau'n 8 metr o uchder gyda chloddiau dwbwl yn atgyfnerthu'r amddiffynfa yn y dwyrain a hyd at 5 clawdd yn atgyfnerthu'r ochr orllewinol.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG006.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- ↑ 2.0 2.1 Coflein
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ Gwefan CPAT