Yr Aran

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr Aran
Yr Aran - geograph.org.uk - 272804.jpg
Math mynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynol Snowdon Massif Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 747 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.0425°N 4.0837°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 235 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegol Ordofigaidd Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Yr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Eryri Edit this on Wikidata

Mae'r Aran yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd yr Wyddfa yn Eryri.

Saif ar y grib i'r de o gopa'r Wyddfa ei hun. Mae'r grib yma yn arwain tua'r de dros Fwlch Main, ar hyd Allt Maenderyn a thros Fwlch Cwm Llan i gopa yr Aran, gyda Cwm Llan ei hun rhwng y grib yma a'r Lliwedd.

Er nad oes llwybr cyhoeddus wedi ei nodi ar y map, gellir ei ddringo yn weddol hawdd o Lwybr Rhyd Ddu neu Lwybr Watkin i gopa'r Wyddfa. Gyda gofal, gellir dringo crib Allt Maenderyn oddi yma i gyrraedd copa'r Wyddfa.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 747.3 metr (2452 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 3 Gorffennaf 2009.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]