Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Deddf seneddol a basiwyd gan Senedd Lloegr yng nghyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr i archwilio cyflwr crefydd yng Nghymru a hyrwyddo achos y Piwritaniaid yn y wlad oedd Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1650).

Ffrwyth gyntaf y ddeddf hon oedd i Oliver Cromwell ddirprwyo awdurdod dros grefydd yng Nghymru i'r Cyrnol Thomas Harrison. Roedd ganddo saith deg o gomisiynwyr dan ei awdurdod, yn cynnwys Cymry fel y Cyrnol John Jones o Faesygarnedd, Syr Erasmus Phillips a'r Cyrnol Philip Jones (Llangyfelach).

Enwebwyd 25 o gymeradwywr dan y ddeddf, yn cynnwys Morgan Llwyd, Walter Cradock, Vavasor Powell, Oliver Thomas, Jenkin Jones, John Miles ac eraill. Un o dasgau'r cymeradwywyr oedd gweld os oedd gweinidogion yn gymwys i'w gwaith a sicrhau dynion eraill i'w lle os nad oeddent. Ymhlith y rhesymau am ddiurddo offeiriad oedd amlblwyfaeth (bod â mwy nag un plwyf yn eu gofal) a methu â phregethu yn Gymraeg.

Un canlyniad o'r ddeddf fu sefydlu tua 60 o ysgolion rhad yng Nghymru, i fechgyn a merched fel ei gilydd. Ond pur gyfyng ar y cyfan oedd effaith y ddeddf a gwaith y comisiynwyr a'r cymeradwywyr ar y wlad am fod trwch y Cymry yn erbyn y Werinlywodraeth.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.