Stephen Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Stephen Hughes
Ganwyd 1622 Edit this on Wikidata
Bu farw 1688 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cyfieithydd Edit this on Wikidata

Anghydffurfiwr cynnar a chyhoeddwr Cymreig oedd Stephen Hughes (16221688).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i sidanydd o'r enw John Hughes. Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei fywyd cynnar, ond efallai iddo gael ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Daeth yn offeiriad Meidrim yn 1654, a daeth yn bur ddylanwadol pan oedd Oliver Cromwell mewn grym.

Dechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg tua 1658. Yn 1659 cyhoeddodd ran gyntaf gwaith barddonol y Ficer Prichard, ac yn fuan wedyn cyhoeddodd yr ail ran. Wedi marwolaeth Cromwell, adferwyd Siarl II i'r orsedd, a bu raid i Hughes adael ei fywoliaeth ym Meidrim. Bu'n pregethu a chadw ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, a tua 1670 ail-ddechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg, gan ddechrau gyda'r drydedd ran o waith y Ficer Prichard. Yn 1672 cyhoeddodd bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ynghyd a Llyfr Psalmau a Thestament Newydd. Yn Llundain, cyfarfu a Thomas Gouge a Charles Edwards, a bu'n cydweithio a hwy. Yn 1677 cyhoeddodd Tryssor i'r Cymru a Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd. Yn 1677-8 cyhoeddodd argraffiad rhad o'r Beibl, ac yn 1681 argraffiad newydd o waith Ficer Prichard, gan roi iddo'r teitl Canwyll y Cymry. Yn 1688 cyhoeddodd gyfeithiad o waith John Bunyan, Taith y Pererin, wedi ei gyfeithu ganddo ef ei hun a thri arall. Bu farw yn Abertawe yn 1688.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  HUGHES , STEPHEN. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.