Amgueddfa Wlân Cymru
Gwedd
| Math | amgueddfa genedlaethol, amgueddfa |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru |
| Lleoliad | Main Mill Building at Museum of the Welsh Woollen Industry. |
| Sir | Sir Gaerfyrddin |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 45.2 metr |
| Cyfesurynnau | 52.026°N 4.399°W |
| Cod post | SA44 5UP |
| Rheolir gan | Amgueddfa Cymru |
![]() | |
Un o aelod-amgueddfeydd Amgueddfa Cymru yw Amgueddfa Wlân Cymru. Ei bwrpas yw dysgu ymwelwyr am bwysigrwydd diwydiant gwlân Cymru ym mywyd economaidd y wlad yn y gorffennol.
Fe'i lleolir ym mhentref Dre-fach Felindre, oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân yn ne Cymru, ger Castellnewydd Emlyn, tua 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin ar yr A484.
Mae'r Amgueddfa yn cynnwys Melin Wlân Teifi sy'n cynhyrchu nwyddau o wlân, gan gynnwys carthenni Cymreig.
