Tŷ unnos

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed sy'n enghraifft o dŷ unnos.

Hen draddodiad Cymreig o adeiladu dros nos ydy tŷ unnos. Ceir traddodiadau tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

Credai rhai pobl pe bai modd adeiladu tŷ ar dir comin mewn un noson yn unig, yna byddai'r tir hynny'n eiddo iddynt ar sail rhydd-ddaliad. Ceir amrywiadau i'r traddodiad hwn: y prawf i weld os oedd y tŷ wedi'i orffen oedd os oedd tân ar yr aelwyd erbyn bore trannoeth; gallai'r trigolion ehangu ar eu tir trwy daflu bwyell o bedwar cornel y tŷ. Pa le bynnag y byddai'r bwyell yn disgyn, dyma fyddai eu tir. Mae Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed yn enghraifft o dŷ unnos.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]