Ankara

Oddi ar Wicipedia
Ankara
Mathbwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,503,985 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMansur Yavaş Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tyrceg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhanbarth Canoldir Anatolia Edit this on Wikidata
SirAnkara Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd25,632 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr938 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawÇubuk, Hatip Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.9358°N 32.8387°E Edit this on Wikidata
Cod post06000–06999 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Ankara Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMansur Yavaş Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Twrci a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno yw Ankara (hefyd: Ancara; hen enwau Angora ac Ancyra), sy'n brifddinas Talaith Ankara yn ogystal. Yn 2007 roedd tua 4,455,453 o bobl yn byw yn y ddinas. Lleolir Ankara 938 medr uwchben lefel y môr. Mae hinsawdd cyfandirol, gyda hafau tymherol ac eira yn y gaeaf. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf y wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am ei geifr blew hir ynghyd â'r gwlân arbennig a geir ohonynt, sef gwlân Angora.

Cafodd y ddinas ei chodi yng nghanol ucheldir Anatolia ac mae'n groesffordd cludiant bwysig iawn i ffyrdd a'r rheilffyrdd fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent a Phrifysgol Ankara ei hun. Mae Llyfrgell Genedlaethol Twrci a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.

Ers y dewiswyd hi fel prifddinas Twrci gan Kemal Atatürk yn lle Istanbul, mae'r ddinas wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys hen ardal o'r enw Ulus ynghyd ag ardal newydd o'r enw Yenisehir. Mae adeiladau Rhufeinig, Bysantaidd ac Otomanaidd yn y strydoedd cul yn yr hen chwarter, a cheir gwestai mawr, theatrau, canolfannau siopio ac ati yn yr ardal newydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci a swyddfeydd y llywodraeth, ynghyd â llysgenhedaethau gwledydd tramor i'w cael yn yr ardal newydd hefyd.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Palas Ankara
  • Çankaya Köşkü (palas Arlywydd Twrci)
  • Mosg Kocatepe
  • Tŵr Atakule
  • Tŷ Opera

Enwogion[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.