Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci
| Enghraifft o: | deddfwrfa unsiambr |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 23 Ebrill 1920 |
| Rhagflaenwyd gan | Ottoman Chamber of Deputies, Senate of the Ottoman Empire |
| Yn cynnwys | Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci |
| Pennaeth y sefydliad | Speaker of the Grand National Assembly of Turkey |
![]() | |
| Pencadlys | Third building of the Grand National Assembly of Turkey |
| Enw brodorol | Türkiye Büyük Millet Meclisi |
| Gwladwriaeth | Twrci |
| Gwefan | https://www.tbmm.gov.tr/, https://global.tbmm.gov.tr/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03b4rs |

Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci (Tyrceg: Türkiye Büyük Millet Meclisi sef TBMM, a elwir fel rheol y Meclis, sef "y Senedd") yw senedd un-siambr Twrci ac unig gorff deddfwriaethol y wlad yn ôl Cyfansoddiad Twrci. Fe'i sefydlwyd yn Ankara ar 23 Ebrill 1920 yng nghanol Rhyfel Annibyniaeth Twrci. Bu gan y senedd ran ganolog yng ngwaith Mustafa Kemal Atatürk yn sefydlu gwladwriaeth newydd yn seiliedig ar weddillion Ymerodraeth yr Otomaniaid ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ceir 550 aelod yn y senedd. Y blaid fwyafrifol ar hyn o bryd yw Plaid Cyfiawnder a Datblygu; ei harweinydd yn y senedd, Recep Tayyip Erdoğan, yw Prif Weinidog y wlad. Ni chaniateir i'r pleidiau Cyrdaidd sydd o blaid annibyniaeth i Cyrdistan gymryd rhan yn yr etholiadau i'r senedd am eu bod yn bleidiau gwaharddedig.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2018-08-18 yn y Peiriant Wayback
