Mustafa Kemal Atatürk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mustafa Kemal Atatürk
Mustafa Kemal Atatürk

Cyfnod yn y swydd
29 Hydref 1923 – 10 Tachwedd 1938
Olynydd İsmet İnönü

Cyfnod yn y swydd
3 Mai 1920 – 24 Ionawr 1921
Olynydd Fevzi Çakmak

Geni 19 Mai 1881(1881-05-19) (dyddiad ansicr)
Selânik
Marw 10 Tachwedd 1938 (57 oed)
Plaid wleidyddol CHP
Priod Lâtife Uşaklıgil
Crefydd Islam
Llofnod Signature of Mustafa Kemal Atatürk.svg

Mustafa Kemal Atatürk (188110 Tachwedd, 1938), neu Gazi Mustafa Kemal Pasha (hyd 24 Tachwedd, 1934), oedd sylfeinydd Gweriniaeth Twrci a'i harlywydd cyntaf. Cafodd ei eni yn Salonika (gogledd Gwlad Groeg heddiw).

Gwnaeth Mustafa Kemal enw iddo'i hun fel swyddog milwrol llwyddianus tra'n gwasanaethu ym myddin Twrci ym Mrwydr Gallipoli yn y Dardanelles, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl i Ymerodraeth yr Otomaniaid golli yn y rhyfel hwnnw a'r cynlluniau gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus i'w thorri i fyny, arweiniodd Atatürk y mudiad cenedlaethol Twrcaidd mewn ymdrech a droes yn Rhyfel Annibyniaeth Twrci. Ar ôl cyfres o gyrchoedd milwrol llwyddianus llwyddodd i ryddhau'r wlad a sefydlu Gweriniaeth Twrci. Fel arlywydd cyntaf ei wlad, dechreuodd Atatürk ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol a cheisiodd greu gwladwriaeth seciwlar, fodern a democrataidd. Ymhlith ei ddiwygiadau oedd cael gwared o'r hen wyddor Arabaidd a chyflwyno un newydd seiliedig ar y wyddor Rufeinig a symleiddio gramadeg yr iaith Dwrceg ei hun.

Ar 24 Tachwedd, 1934, fel cydnabyddiaeth o'i ran hollbwysig yn sefydlu'r Twrci fodern, rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Twrci yr enw "Atatürk" iddo (sy'n golygu "Tad y Tyrciaid" neu "Hynafiad y Tyrciaid"). Pan fu farw bedair blynedd yn ddiweddarach codwyd beddrod ardderchog iddo ar bryn uchel yn y brifddinas newydd, Ankara. Mae'r beddrod yn ganolfan pererindod wlatgar ac yn symbol amlwg o'r Twrci fodern mewn cyferbyniaeth â'r gorffennol.