Brwydr Gallipoli
| Enghraifft o: | ymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol |
|---|---|
| Rhan o | y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol |
| Dechreuwyd | 25 Ebrill 1915 |
| Daeth i ben | 9 Ionawr 1916 |
| Lleoliad | Gallipoli |
![]() | |
| Gwladwriaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01fc7p |
| Quora | Gallipoli-campaign |

Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol oedd Brwydr Gallipoli, weithiau Ymgyrch y Dardanelles, (Twrceg: Çanakkale Savaşları) a ymladdwyd ar benrhyn Gallipoli (Twrci) rhwng 25 Ebrill 1915 hyd 9 Ionawr 1916. Glaniodd byddin y cyngheiriaid, oedd yn cynnwys carfan gref o'r Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig milwyr o Awstralia a Seland Newydd, ynghyd â milwyr Ffrengig, ar y penrhyn gyda'r bwriad o gipio Istanbul, prifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid. Byddai hyn wedi agor y culfor sy'n arwain i'r Môr Du, a'i geneud yn bosibl i yrru adnoddau rhyfel i gynorthwyo Rwsia.
Wedi misoedd o ymladd caled yn erbyn byddin yr Ymerodraeth Otomanaidd, gorfodwyd y cyngheiriad i encilio yn Ionawr 1916, wedi diddoef colledion mawr. Daeth arweinydd y Twrciaid, Mustafa Kemal Atatürk, yn arwr cenedlaethol, a gwelir y frwydr fel dechrau'r broses a arweiniodd at annibyniaeth Twrci wyth mlynedd yn ddiweddarach dan Atatürk.
