Neidio i'r cynnwys

Bangkok

Oddi ar Wicipedia
Bangkok
Mathdinas, special administrative area of Thailand, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, national capital Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,676,648 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Ebrill 1782 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChadchart Sittipunt Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
GwladBaner Gwlad Tai Gwlad Tai
Arwynebedd1,568.737 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Chao Phraya Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNonthaburi, Samut Prakan, Pathum Thani, Nakhon Pathom, Samut Sakhon, Chachoengsao Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.75°N 100.52°E Edit this on Wikidata
Cod post10### Edit this on Wikidata
TH-10 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholBangkok Metropolitan Council Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChadchart Sittipunt Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganBuddha Yodfa Chulaloke Edit this on Wikidata

Prifddinas Gwlad Tai a dinas fwyaf y wlad yw Bangkok ("Cymorth – Sain" Ynganiad Thai ), a elwir yn Krung Thep Mahanakhon yn yr iaith Thai (กรุงเทพฯ). Mae poblogaeth Bangkok oddeutu 5,676,648 (31 Rhagfyr 2018)[1]; yn 2007, hi oedd 22ain ddinas fwyaf yn y byd.

Sefydlwyd y ddinas ar lan ddwyreiniol Afon Chao Phraya, ger Gwlff Gwlad Tai. Arferai fod yn fan masnachu bychan ger aber yr afon yn ystod cyfnod y Deyrnas Ayutthaya. Daeth y ddinas yn flaenllaw yn Siam (yr hen enw am Wlad Tai) a chafodd statws prifddinas ym 1768 pan losgwyd Ayutthaya. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y Deyrnas Rattanakosin presennol tan 1782 pan symudwyd y brifddinas i ochr arall yr afon gan Rama I ar ôl marwolaeth y Brenin Taksin. Bellach rhoddir yr enw ffurfiol "Phra Nakhon" ar y brifddinas Rattanakosin, gan gadw ffiniau hynafol yr ardal fetropolitanaidd ac mae'r enw "Bangkok" yn cynnwys yr ardaloedd ddinesig a adeiladwyd yn y 18g. Mae gan y ddinas weinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethwr.

Dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf, mae Bangkok wedi datblygu i fod yn ganolfan wleidyddol, cymdeithasol ac economaidd, nid yn unig i Wlad Tai ond hefyd i Indo-Tsieina a De-ddwryain Asia. Mae dylanwad y ddinas ar fyd y celfyddydau, gwleidyddiaeth, ffasiwn, addysg ac adloniant yn ogystal â bod yn ganolfan fusnes, ariannol a diwylliannol pwysig wedi gosod Bangkok ymysg dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd y byd.

Erbyn 2010, o ganlyniad i fudwyr answyddogol sy'n dod i'r ddinas o Ogledd-ddwyrain Gwlad Tai a gwledydd Asiaidd eraill, amcangyfrifir fod poblogaeth Bangkok Fwyaf yn agosach i 15 miliwn. Golyga hyn fod gan y wlad gymysgedd o genhedloedd yn trigo yno, yn hytrach na phoblogaeth homogenus Gwlad Tai, sydd wedi ychwanegu at naws gosmopolitanaidd y ddinas. Mae'r ddinas yn rhan o'r triongl hynod ddiwydiannol o ganol a dwyrain Gwlad Tai, sy'n ymestyn o Nakhon Ratchasima heibio i Bangkok i'r ardal ddiwydiannol ddwyreiniol.

Mae Talaith Bangkok yn ffinio â chwech talaith arall: Nonthaburi, Pathum Thani, Samut Prakan, Samut Sakhon a Nakhon Pathom, a chysylltir y pum talaith yna yn cytrefu Ardal Fetropolitanaidd Bangkok.

Krung Thep yw enw iaith y ddinas ers dwy ganrif a mwy. Nid hi oedd prifddinas wreiddiol Gwlad Tai; yn wir, tan y 18g, fe'i lleolid ar lan gorllewinol yr afon yn Thonburi ac yn nifer o leoedd eraill yn y Deyrnas cyn hynny. Erbyn hyn, mae'r ddwy ddinas wedi tyfu'n un a chyfeirir atynt fel Krung Thep.

Arferai tref Bang Kok (Thai: บางกอก ) fod yn ganolfan fasnachu bychan ac yn gymuned borthladdol ar lan orllewinol Afon Chao Phraya cyn i Deyrnas Ayutthaya (rhagflaenydd y Wlad Tai fodern a fodolai o 1350 tan 1767) gael ei sefydlu. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. "Bang" yw'r enw Thai Ganolog am dref sydd wedi'i lleoli ar lan afon. Credir fod "Bangkok" yn deillio o naill ai Bang Kok, gyda "kok" yn enw a roddir am eirinen Java; neu Bang Koh, gyda "koh" yn golygu "ynys," sy'n gyfeiriad at dirwedd yr ardal a gerfiwyd gan afonydd a chamlesi.

Pan gwympodd y Deyrnas Ayutthaya i'r Teyrnas Byrmanaidd ym 1767, sefydlodd y Brenin Taksin newydd ei brifddinas newydd yn yr hen ardal a adwaenid fel Bangkok, a galwyd yr ardal yn Thonburi. Pan ddaeth teyrnasiad Taksin i ben ym 1782, ail-grëodd y Brenin Buddha Yodfa Chulaloke y brifddinas ar lannau dwyreiniol yr afon gan roi enw seremonïol ar y ddinas, enw a fyrhawyd i'w enw presennol sef Krung Thep Maha Nakhon. Fodd bynnag, etifeddodd y ddinas newydd yr enw Bangkok hefyd, enw a barhaodd i gael ei ddefnyddio gan estroniaid er mwyn cyfeirio at y ddinas yn ei chyfanrwydd. Daeth Bangkok yn yr enw Saesneg swyddogol, er yng Ngwlad Tai, mae'r enw'n cyfeirio at yr hen ardal ar lannau gorllewinol yr afon. Ers hynny, mae'r ddinas wedi'i moderneiddio'n llwyr ac wedi newid llawer, gan gynnwys cyflwyno trafnidiaeth a seilwaith cyfleusdod yn ystod teyrnasiad y Brenin Mongkut a'r Brenin Chulalongkorn, ac yn fuan iawn datblygodd y ddinas yn ganolbwynt economaidd i Wlad Tai.

Yn raddol, ehangodd economi Bangkok trwy fasnach ryngwladol, yn gyntaf gyda Tsieina, yna gyda masnachwyr Gorllewin Ewrop yn y 19g. Fel prifddinas, Bangkok oedd dechrau a diwedd y broses o foderneiddio Siam wrth iddo wynebu pwysau gan bwerau'r Gorllewin ar ddiwedd y 19g. Yn ystod teyrnasiadau y Brenhinoedd Mongkut (Rama IV, 1851-68) a Chulalongkorn (Rama V, 1868–1910) cyflwynwyd yr injan stêm, y wasg argraffu, trafnidiaeth rheilffyrdd a gwasanaethau megis trydan a systemau dwr yn y ddinas, ynghyd ag addysg ffurfiol a gofal iechyd. Daeth Bangkok yn ganolbwynt i frwydrau am bŵer - rhwng gwahanol garfannau o'r elit milwrol a gwleidyddol wrth i'r wlad ddileu eu brenhiniaeth yn llwyr, ym 1932.[2][2]

Wrth i Wlad Thai gynghreirio â Japan yn yr Ail Ryfel Byd, bomiwyd Bangkok yn ddidrugaredd gan y Cynghreiriaid, ond tyfodd yn gyflym yn y cyfnod ar ôl y rhyfel o ganlyniad i gymorth Unol Daleithiau America a buddsoddiad a dalwyd amdano gan y llywodraeth. Fe wnaeth rôl Bangkok fel cyrchfan Ymchwil a Datblygu milwrol yr Unol Daleithiau hybu ei ddiwydiant twristiaeth yn ogystal â’i sefydlu’n gadarn fel cyrchfan twristiaeth rhyw. Arweiniodd datblygiad trefol anghymesur at anghydraddoldebau incwm cynyddol a mudo o ardaloedd gwledig i mewn i Bangkok; cynyddodd ei phoblogaeth o 1.8 miliwn i 3 miliwn yn y 1960au.

Sefydlwyd gweinyddiaeth y ddinas gyntaf gan y Brenin Chulalongkorn ym 1906, gyda sefydlu Monthon Krung Thep Phra Maha Nakhon (มณฑล กรุงเทพ พระ มหานคร) fel israniad cenedlaethol. Ym 1915, fe'i rhannwyd yn sawl talaith ac mae ei ffiniau gweinyddol wedi newid ymhellach ers hynny. Cafodd ffurf bresennol y ddinas ei chreu ym 1972 pan greewyd Gweinyddiaeth Fetropolitan Bangkok (BMA), yn dilyn uno Talaith Phra Nakhon ar lan ddwyreiniol Talaith Chao Phraya a Thonburi ar y gorllewin yn ystod y flwyddyn flaenorol.[3]

Bangkok heddiw

[golygu | golygu cod]
Bangkok gyda'r nos

Mae Bangkok wedi tyfu'n gyflym, yn economaidd ac yn ddiwylliannol ac mae bellach yn un o ganolfannau pwysicaf De-ddwyrain Asia. Mae Sefydliad Meterologaidd y Byd wedi galw Bangkok yn ddinas fawr boethaf y blaned. Ar ben hyn, Bangkok yw un o atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd y byd a'r ddinas gyfoethocaf a mwyaf poblog yng Ngwlad Tai. Daw yn yr ail safle ar hugain o ran dinasoedd mwyaf poblog y byd.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Mae tarddiad yr enw 'Bangkok' (บางกอก; "Cymorth – Sain" Ynganiad Thai ) yn ansicr. Gair Thai yw 'Bang' sy'n golygu 'pentref ar nant', ac efallai fod yr enw wedi deillio o 'Bang Ko' (บาง เกาะ), gyda 'ko' yn golygu 'ynys', sef disgrifiad o dirwedd ddyfrllyd y ddinas.[4][5] Mae damcaniaeth arall yn awgrymu ei fod wedi'i fyrhau o 'Bang Makok' (บาง มะกอก), 'makok' yw'r enw lleol ar Elaeocarpus hygrophilus, planhigyn sy'n dwyn ffrwythau tebyg i olewydd. Cefnogir hyn gan yr hen enw 'Wat Arun', teml hanesyddol yn yr ardal, a arferai gael ei galw'n "Wat Makok".[6]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://stat.dopa.go.th/stat/statnew/statTDD/views/showDistrictData.php?statType=1&year=61&rcode=10.
  2. 2.0 2.1 Baker & Pongpaichit 2005, tt. 37–41, 45, 52–71, 149–150, 162, 199–204.
  3. Committee for the Rattanakosin Bicentennial Celebration (1982). จดหมายเหตุการอนุรักษ์กรุงรัตนโกสินทร์ [Rattanakosin City conservation archives]. Department of Fine Arts. Reproduced in "กว่าจะมาเป็นกรุงเทพฯ" [The path to become Bangkok]. BMA Data Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 1 Aest 2012. Check date values in: |access-date= (help)
  4. พจนานุกรม ฉบับราชบัณฑิตยสถาน พ.ศ. ๒๕๔๒ [Royal Institute Dictionary, B.E. 1999 (online edition)] (yn Thai). Royal Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 12 Medi 2012.
  5. Chandrashtitya, Tipawan; Matungka, Chiraporn. ประวัติเมืองธนบุรี [History of Thonburi City]. Arts & Cultural Office (yn Thai). Dhonburi Rajabhat University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2011.
  6. Wongthes, Sujit (2012). กรุงเทพฯ มาจากไหน? [Bangkok: A Historical Background] (yn Thai). Bangkok: Dream Catcher. t. 37. ISBN 9786167686004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 9 Mehefin 2013.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]