Emlyn (cantref)
Math | cantref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.033°N 4.435°W |
Roedd Emlyn yn gantref yng ngogledd teyrnas Dyfed. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae ei statws cynnar yn ansicr ac mae'n bosibl ei bod yn enghraifft o gwmwd annibynnol a ddaeth yn gantref yn ddiweddarach.
Lleolir Emlyn i'r de o afon Teifi yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref Is Aeron, i'r dwyrain mae'n ffinio â'r Cantref Mawr, i'r de â chwmwd Elfed, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.
Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd gydag afon Cuch yn eu gwahanu:
Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf y cantref. Mae ei ganolfan wleidyddol cynnar yn anhysbys. Yn ddiweddarach tyfodd Castellnewydd Emlyn yn ganolfan bwysig yng nghyfnod y Normaniaid.
Cysylltir y cantref â'r Mabinogi : mae Glyn Cuch, lle mae Pwyll yn cwrdd ag Arawn brenin Annwn, yn gorwedd yng nghwmwd Emlyn Is Cuch.