Cemais (cantref yn Nyfed)

Oddi ar Wicipedia
Cemais
Enghraifft o'r canlynolcantref Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Map o deyrnas Dyfed yn dangos lleoliad cantref Cemais (gwyrdd tywyll)
Gweler hefyd Cemais, cantref ar Ynys Môn.

Cantref yn nheyrnasoedd Dyfed a Deheubarth yn yr Oesoedd Canol oedd Cemais. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y Sir Benfro bresennol gyda mynyddoedd Y Preseli yn asgwrn cefn iddo yn y de.

Ymestynnai o gyffiniau Aberteifi heddiw hyd arfordir gogledd Penfro i ffinio â chantref Pebidiog yn y gorllewin; dynodai Afon Gwaun y ffin. Yn y de rhannai ffin â chantref Daugleddau tra yn y dwyrain ffiniai â San Clêr a chwmwd annibynnol Emlyn. Fe'i ymrennid yn ddau gwmwd Uwch Nyfer ac Is Nyfer gan Afon Nyfer.

Ei ganolfan eglwysig oedd yr hen glas Celtaidd yn Nanhyfer (Nyfer). Nid oes sicrwydd am leoliad ei faenor (prif lys) ond mae'n bosibl ei fod yn Nanhyfer hefyd. Codwyd Castell Nanhyfer gan y Normaniaid ar ddechrau'r 12g ond daeth i feddiant yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.

Gorwedd y cantref yng nghanol gwlad y Demetae, un o lwythau Celtaidd Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Cainc Gyntaf a Thrydedd Gainc y Mabinogi - Pwyll Pendefig Dyfed a Manawydan fab Llŷr - yn y cantref.

Cysylltir Cuhelyn Fardd (fl. 1100-30?), un o noddwyr beirdd mawr y de-orllewin yn y 12g a bardd hefyd efallai, â'r cantref.

Barwniaeth Normanaidd[golygu | golygu cod]

Fel Barwniaeth Cemais, roedd yn un o arglwyddiaethau'r Mers a ymestynnai o Sir Benfro trwy dde Cymru a'r Gororau hyd at Arglwyddiaeth Dinbych yn y gogledd. Roedd ei harglwyddi yn cynnwys Robert fitz Martin, sylfaenydd Castell Nanhyfer.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]