Silian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Silian
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.1333°N 4.0833°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref yn Nyffryn Aeron, Ceredigion yw Silian, neu Sulien yn hanesyddol. Lleolir tua dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanbedr Pont Steffan, ar lôn gefn hanner ffordd rhwng Pont Creuddun ar yr A482, a Glan Denys ar yr A485.

Mae hefyd yn enw ar blwyf yr ardal, a gymerir ei enw o'r un sant a cysegrwyd eglwys y pentref iddo, sef Sant Sulien.[1] Adeiladwyd Capel Bethel yn Silian ym 1654, ac adneyddwyd ym 1952.[2]

Ganwyd Julian Cayo-Evans, y Cenedlaetholwr Cymreig ac arweinydd Byddin Rhyddid Cymru, yn Silian ym 1937.[2]

Mae papur bro Llais Aeron yn gwasanethu'r ardal. Lleolir sawl llety hunan-arwyo a gwely a brecwast yn y pentref, gan ei fod wedi'i leoli yn gyfleus i ymweld a ardal Llanbedr Pont Steffan yn ogystal â threfi Aberaeron ac Aberystwyth gerllaw.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Silian. Genuki.
  2. 2.0 2.1  BBC Mid Wales / Silian. BBC (11 Ionawr 2007).
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.