Byddin Rhyddid Cymru
| Enghraifft o: | sefydliad parafilwrol |
|---|---|
| Idioleg | Annibyniaeth i Gymru |
| Daeth i ben | 1969 |
| Dechrau/Sefydlu | 1963 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09kyks |
Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd Byddin Rhyddid Cymru (Saesneg: Free Wales Army neu FWA).
Sefydlwyd y fyddin yn Llanbedr Pont Steffan yn 1963 gan William Julian Cayo-Evans, gyda'r bwriad o gymeryd lle Mudiad Amddiffyn Cymru. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref Capel Celyn a chyn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969.
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.
Achos llys
[golygu | golygu cod]Yn 1969 rhoddwyd naw o arweinyddion y fyddin, Julian Cayo-Evans, Dennis Coslett, William Vernon Davies, Vivian George Davies, Keith Davies (Gethin ab Iestyn) a David Bonnar Thomas[1] David John Underhill, Glyn Rowlands a Tony Lewis[2] ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.
Ar ddechrau'r achos gwrthododd y diffynyddion ufuddhau i'r orchymyn "All Silence", trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.
Er bod y mwyafrif o'r troseddau honedig cyhuddwyd y diffynyddion o'u cyflawni wedi eu cyflawni, yn ôl y cyhuddwyr, yn Siroedd Caerfyrddin a Meirionydd, cynhaliwyd yr achos traddodi yng Nghaerdydd a'r achos o flaen Llys y Goron yn Abertawe. Gofynnodd John Gower QC ar ran Dai Bonner i'r achos cael ei glywed yn Llys y Goron Caerfyrddin gan awgrymu bod yr awdurdodau wedi dewis Caerdydd ac Abertawe ar gyfer clywed yr achos yn fwriadol, o'r herwydd y tebygolrwydd uwch o gael rheithfarn wrth Gymreig yn y dinasoedd nac yn y trefi Cymraeg, gwrthodwyd y cais. Gwrthododd Cayo a Cosslett pledio, a chofrestrwyd ple o ddieuog ar eu rhan, plediodd y diffynyddion eraill yn ddieuog. Gan fod Cayo a Glyn Rowlands yn dymuno i'r achos cael ei glywed trwy'r Gymraeg, caniatawyd i gyfieithwyr eistedd y tu ôl iddynt i sibrwd cyfieithiad Cymraeg o'r achos yn eu clustiau.[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Roy Clews, To Dream of Freedom (Y Lolfa, 1980)
- John Humphries, Freedom Fighters (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)