Cwrwgl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Two Coracles and Tungabhadra River.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmath o gwch Edit this on Wikidata
Mathcwch, cwch croen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cwch pysgota bychan a syml iawn yw cwrwgl neu corwgl (enw gwrwyaidd; lluosog: cwryglau, cyryglau neu coryglau). Mae cwrwgl yn ysgafn iawn. Roedd yn cael ei ddefnyddio ar afonydd Cymru a Lloegr oesoedd yn ôl ac hyd yn oed cyn cyfnod y Rhufeiniaid. Bellach dim ond ar ychydig o afonydd Cymru y gwelir y cwrwgl heddiw, sef afon Tywi, afon Teifi ac Afon Tâf.

Ysgafnder oedd prif rinwedd y corwgl. Roedd hefyd yn hawdd i'w wneud. Gwneir ef o groen anifail a gwiail. Fel arfer, mae dau berson yn pysgota gyda'i gilydd pan yn defnyddio cwrwgl, pob un ohonyn mewn cwrwgl ei hun a defnyddir rhwyd rhwng y ddau i ddal y pysgod.

Mae'r currach neu gurragh a ddefnyddir yn Iwerddon a'r Alban yn debyg iawn, ond yn fwy. Ardaloedd eraill lle defnyddir badau tebyg yw America (Bullboat yr Indiaidd), Irac (y Gufa), ac India (y Parisal).

Cwryglau ar Afon Teifi

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dangosa gerfiadau i gwryglau gael eu defnyddio gan y Brythoniaid. Disgrifiodd Gerallt Gymro gwryglau yng Nghenarth ym 1188.[1] Yn debyg, croen buwch oedd gorchudd gwreiddiol y cwrwgl, ac o hynny ddaeth maint bychan y cwch.[2]

Wedi i'r cwrwglwr gymryd ei gwch o'r dŵr, bydd yn ei droi drosodd ar y gwair ac yn rhoi cerrig yn bwysau wrtho. Unwaith i'r cwrwgl sychu, cariodd y pysgotwr y cwch ar ei gefn. O'r traddodiad hwn daw'r dihareb Cymraeg llwyth dyn ei gorrwg.[3]

Cwrwgl yn Tamil Nadu

Adeiladu[golygu | golygu cod y dudalen]

Heddiw, defnyddir cynfas yn amlach na chroen anifail, a'i ddiddosir â thar neu byg. Mae'r cwrwgl arferol yn pwysgo saith i 15 o bwysi, ac yn mesur tua chwe throedfedd o hyd a phedair troedfedd o led. Mae gwaelod y cwch yn wastad, ac mae'r ochrau fel arfer yn llai nag un droedfedd ac yn codi'n berpendicwlar i'r gwaelod. Mae un ben o'r cwrwgl yn bigfain.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Mary Eirwen. Welsh Crafts (Llundain, B. T. Batsford, 1978), t. 103.
  2. Jones (1978), t. 105.
  3. 3.0 3.1 Jones (1978), t. 104.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: