Afon Taf (Sir Gaerfyrddin)
(Ailgyfeiriad oddi wrth Afon Tâf (Sir Gaerfyrddin))
Jump to navigation
Jump to search
Mae Afon Tâf (ysgrifennir hefyd fel Afon Taf) yn afon yn ne-orllewin Cymru.

Aber Afon Taf ger Talacharn
Mae Afon Taf yn tarddu gerllaw pentref Crymych yn Sir Benfro. Wedi llifo trwy Lyn Glan-taf, mae'n llifo heibio'r Frenni Fawr i bentref Glog ac yna heibio Llanglydwen a Login i bentref Llanfallteg. Mae Afon Marlais yn ymuno a hi cyn iddi lifo trwy Hendy Gwyn ar Dâf ac yna trwy Sanclêr. Ychydig tu draw i Sanclêr mae Afon Cywyn yn ymuno â hi, cyn cyrraedd y môr gerllaw Talacharn. Mae'n llifo allan i Fae Caerfyrddin fel y mae Afon Tywi, afon y Gwendraeth Fawr a'r Gwendraeth Fach, ac Afon Llwchwr.