Afon Taf (Sir Gaerfyrddin)
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Benfro Sir Gaerfyrddin |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 6 metr |
| Cyfesurynnau | 51.8°N 4.5°W |
| Aber | Bae Caerfyrddin |
| Llednentydd | Afon Cywyn |
| Hyd | 56 cilometr |
![]() | |
- Mae dwy 'Afon Taf' yng Nghymru. Mae'r erthygl yma yn delio â'r afon sy'n cyrraedd y môr ym Mae Caerfyrddin. Am y llall, gweler Afon Taf (Caerdydd).
Afon yn ne-orllewin Cymru yw Afon Taf, sy'n tarddu gerllaw pentref Crymych yn Sir Benfro. Wedi llifo trwy Lyn Glan-taf, mae'n llifo heibio'r Frenni Fawr i bentref Glog ac yna heibio Llanglydwen a Login i bentref Llanfallteg. Mae Afon Marlais yn ymuno â hi cyn iddi lifo trwy Hendy Gwyn ar Dâf ac yna trwy Sanclêr. Ychydig tu draw i Sanclêr mae Afon Cywyn yn ymuno â hi, cyn cyrraedd y môr gerllaw Talacharn. Mae'n llifo allan i Fae Caerfyrddin fel y mae Afon Tywi, afon y Gwendraeth Fawr a'r Gwendraeth Fach, ac Afon Llwchwr.


