Gruffudd Eifion Owen
| Gruffudd Eifion Owen | |
|---|---|
| Ganwyd | 1986 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd |
Bardd, dramodydd ac awdur Cymraeg yw Gruffudd Owen neu Gruff Sol[1], enw llawn Gruffudd Eifion Owen (ganwyd 1986). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 a'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2009.[2] Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2019 a 2021.[3]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i magwyd ym Mhwllheli gan fynychu Ysgol Glan y Môr, gan astudio Cymraeg, Hanes a Drama i Lefel A. Yn ei arddegau mynychodd wersi cynganeddu gyda Ifan Prys a’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws. Aeth i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar ôl graddio aeth ymlaen i ysgrifennu traethawd MPhil ar ei arwr mawr, Wil Sam.[4]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Mae Gruff yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel awdur a golygydd ar ei liwt fy hun. Bu hefyd yn gweithio fel golygydd stori ar y gyfres Pobol y Cwm. Yn 2015, cyhoeddodd cyfrol o gerddi caeth a rhydd, Hel Llus yn y Glaw, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016 (Categori Barddoniaeth). Yn 2018/2019 roedd yn rhan o gynllun Grŵp Dramodwyr Newydd y Theatr Genedlaethol ac ysgrifennodd ddrama Parti Priodas. [5] Cyfranodd sgriptiau i'r gyfres Stad.
Mae'n aelod o'r criw sy'n trefnu nosweithiau barddol Bragdy’r Beirdd yn y brif-ddinas. Mae'n aelod o dîm ymryson Llŷn ac Eifionydd ac o dîm Talwrn y Ffoaduriaid. Enillodd stôl Stomp Fawr Caerdydd yn 2017 a stôl Stomp Fwy Caerdydd yn 2018.[6]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Parti Priodas (2024) Theatr Cymru
- 1936 (2025) Theatr Bara Caws
- Dadra (2026) Theatr Bara Caws
- Te Angladd (2026) Theatr Cymru
Teledu, Ffilm a Radio
[golygu | golygu cod]- Pobol y Cwm
- Stad (2025 –
- Yr Oriau Mân (2025) BBC Radio Cymru[7]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hel Llus yn y Glaw (2015) Ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth.
- Mymryn Rhyddid (2023) Ei ail gyfrol o farddoniaeth, enillydd categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2024.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llenyddiaeth Cymru (2011-10-25), Gruff Sol yn cyflwyno Gwennan Evans, https://www.youtube.com/watch?v=DglHu-wJOpU, adalwyd 2026-08-13
- ↑ Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Eisteddfod Genedlaethol (10 Awst 2018).
- ↑ Gruffudd Owen o Bwllheli yw Bardd Plant Cymru tan 2021 , Golwg360, 28 Mai 2019.
- ↑ Gruffudd Owen. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 12 Awst 2018.
- ↑ Dewch i adnabod Gruff a Lowri. Theatr Genedlaethol Cymru (12 Mehefin 2019).
- ↑ Dangos a Dweud Llenyddiaeth yn yr Eisteddfod. Prifysgol Caerdydd. Adalwyd ar 12 Awst 2018.
- ↑ "Drama ar Radio Cymru - Yr Oriau Mân - BBC Sounds". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-08-07.
- ↑ Cymru, Cyfnewidfa Llên (2025-03-15). "Mymryn Rhyddid". Cyfnewidfa Llên Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-15.