Neidio i'r cynnwys

Theatr Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Theatr Genedlaethol Cymru)
Theatr Cymru
Enghraifft o:cwmni theatr, busnes, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
Gweithwyr15, 16 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.theatr.cymru/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Am y theatr genedlaethol Gymreig yn Saesneg, gweler National Theatre Wales a Welsh National Theatre

Cwmni Theatr Genedlaethol Cymraeg ei hiaith ydi Theatr Cymru (Theatr Genedlaethol Cymru gynt). Sefydlwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003 ac ymgartrefodd y cwmni ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli cyn symud i'r Egin, Caerfyrddin.[1] Mae bwriad a gweledigaeth y cwmni wedi amrywio'n fawr dros y blynyddoedd, yn unol â gweledigaeth yr arweinydd artistig gyfredol.[2] Canolbwyntio ar 3 cynhyrchiad prif ffrwd y flwyddyn wnaeth Cefin Roberts rhwng 2003 a 2010 gan gynnwys 'Tymor y Clasuron' rhwng Ebrill 2006 a Mawrth 2007.[1] Roedd penodiad Arwel Gruffydd yn 2011 a'i weledigaeth o lwyfannu cynyrchiadau ar leoliad ac ar batrwm National Theatre Wales, yn "gam enfawr ymlaen yn hanes y Theatr Genedlaethol [Cymru]" yn ôl un adolygydd.[3]

Newidiwyd yr enw i Theatr Cymru ar gychwyn cyfnod Steffan Donnelly fel arweinydd artistig yn 2022. Erbyn 2024, mae'r cwmni yn dal i 'deithio cynyrchiadau i theatrau ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â chynnal prosiectau amrywiol fel: ysgrifennu creadigol, sioeau cerdd, gwaith safle-benodol, a chlasuron y Theatr Gymraeg a rhyngwladol.'[4]

Ennillodd y cwmni Wobr UK Theatre am Ragoriaeth mewn Teithio yn 2024[5] yn ogystal â cael eu henwebu fel Cynhyrchydd y Flwyddyn yn The Stage Awards.[6] Lansiwyd partneriaeth gyda S4C ar ddiwedd 2024 i rannu rai o ddramâu Theatr Cymru ar y sianel deledu llinol a phlatfformau ffrydio S4C Clic, Youtube a BBC iPlayer.[7]

Mae'r cwmni'n perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol, fel arfer gyda dramâu newydd. Mae Theatr Cymru hefyd yn teithio cynyrchiadau tu hwnt i ffiniau Cymru, gan gynnwys i Shakespeare's Globe yn Llundain ac i Japan fel ran o Flwyddyn Cymru a Japan 2025.[8][9]

Cyfarwyddwyr Artistig

[golygu | golygu cod]

2003 - 2010

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003 fel cwmni theatr cenedlaethol Cymraeg ei iaith ar gyfer Cymru gyfan. Daeth y sefydliad i fodolaeth yn sgil trafodaethau a fu’n parhau ers blynyddoedd ynghylch yr angen am gorff cenedlaethol i arwain a datblygu theatr broffesiynol Gymraeg. Er bod gan Gymru draddodiad cyfoethog o ddrama Gymraeg a chwmnïau theatr llwyddiannus, teimlai llawer o ymarferwyr a sylwebyddion fod diffyg sefydliad cenedlaethol a allai roi cyfeiriad strategol a chynrychiolaeth genedlaethol i’r maes.[13] Noda Emyr Edwards, "Cyfarfu caredigion y theatr Gymraeg yn Rhagfyr 1999 i drafod y syniad o greu Theatr Genedlaethol i Gymru. O fewn pedair blynedd gwelwyd geni ['r cwmni]".[14]

Yn 2003 cyhoeddwyd y byddai’r cwmni newydd yn cael ei leoli yn Sir Gaerfyrddin, gyda’i swyddfeydd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.[15] Dewiswyd Sir Gaerfyrddin yn dilyn cystadleuaeth rhwng sawl ardal yng Nghymru i fod yn gartref i’r sefydliad newydd. Roedd y penderfyniad yn rhan o ymdrech ehangach i ddatblygu’r celfyddydau a chreu cyfleoedd economaidd a diwylliannol y tu allan i’r prif ganolfannau trefol.[15] Derbynniodd y Cwmni grant o £750,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru,[16] a chafodd ei gweld gan nifer o sylwebyddion fel carreg filltir yn natblygiad diwylliant cenedlaethol Cymru yn sgil datganoli. Roedd cefnogwyr y cynllun yn dadlau bod sefydlu Theatr Genedlaethol Gymraeg yn rhoi’r un statws i theatr Gymraeg ag a geid mewn cenhedloedd eraill, ac yn cryfhau seilwaith y celfyddydau Cymraeg.[13] Fel y nododd Anwen Jones, byddai llywodraeth heb Theatr Genedlaethol yn debyg i “gorff heb enaid”, gan bwysleisio’r cysylltiad rhwng diwylliant, iaith a hunaniaeth genedlaethol.[13]

Gwahoddwyd actorion, gweinyddwyr, awduron, athrawon ac eraill i lunio Bwrdd o Ymddiriedolwyr, a'r aelodau cyntaf oedd Sandra Wynne, Linda Brown, Iwan England, Gwyneth Glyn, John Gwynedd Jones, Lyn T. Jones, Gareth Miles, Garry Nicholas, Wynford Ellis Owen, Sion Clwyd Roberts, Carys Tudor Williams, Elinor Williams a Peter Rees Davies.[17] Penodwyd yr actor, cyfarwyddwr a pherfformiwr Cefin Roberts yn gyfarwyddwr artistig cyntaf y cwmni ym Mai 2003. Roedd y penodiad yn un dadleuol gyda sawl arbenigwr yn y maes yn cwyno am drafodaethau "cul" a "phreifat".[18] Wrth dderbyn y swydd, pwysleisiodd Roberts bwysigrwydd adeiladu theatr a fyddai’n gwasanaethu Cymru gyfan ac yn denu cynulleidfaoedd newydd at y theatr Gymraeg. Yn ogystal â chynhyrchu dramâu proffesiynol o safon uchel, bwriad y cwmni oedd gweithio mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru er mwyn ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau.[19]

Mae Emyr Edwards yn ei gyfrol Perfformio [Carreg Gwalch 2013] yn dyfynnu cadeirydd cyntaf y Theatr Genedlaethol, Lyn T. Jones, a nododd yn Galwad [2003] "...y byddai'r cwmni newydd yn cyflogi tua phymtheg o staff, grŵp o tua chwech o actorion llawn amser 'a fydd yn galon i'r cyfan'" a bod hi'n "hanfodol bwysig 'ein bod ni'n datblygu a meithrin sgrifenwyr a dramodwyr gan nad oes digon o ddramâu newydd yn y Gymraeg". Dadleuodd Edwards, "...nid oedd yr addewid yma'n amlwg iawn ymhlith y ffrwd gyntaf o ddramâu [...] yn ystod ei thair blynedd gyntaf."[14]

Cwmni Craidd

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd cwmni craidd o bedwar actor ar batrwm cwmni rep sef Owen Arwyn, Dave Taylor, Carys Eleri a Rhian Blythe, gan wahodd actorion mwy profiadol yn ôl y galw. Cynhyrchiad teithiol cynta'r cwmni oedd ail-lwyfannu drama Meic Povey, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi a welwyd gyntaf gan Theatr Bara Caws ym 1995. Dilynwyd hyn gan gynyrchiadau dadleuol eraill gan gynnwys addasiad Cymraeg a chynhyrchiad dwyieithog o Romeo a Juliet gan Shakespeare a'r ffars Plas Drycin gan Gwyneth Glyn.[2] Patrwm tri cynhyrchiad prif-ffrwd y flwyddyn oedd dewis Cefin, a hynny wedi'i lwyfannu yn rhai o brif theatrau Cymru neu yn Theatr y Maes ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd arlwy'r blynyddoedd cyntaf yn cynnwys gwaith gan John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry, Aled Jones Williams, Samuel Beckett a Saunders Lewis.[2]

Rhai o uchafbwyntiau y cyfnod cynnar oedd cynhyrchiad Cefin Roberts o ddrama newydd Aled Jones Williams, Iesu! (2008), cynyrchiadau Judith Roberts o Y Pair (2007) a Cariad Mr Bustl (2008)[14] a chynhyrchiad Daniel Evans o Esther (2006).[20]

Cyhoeddodd Cefin Roberts 'yn annisgwyl' ei fod am ymddiswyddo o'i swydd fel arweinydd artistig y cwmni ar y 27 Ionawr 2010, wythnos union cyn cychwyn taith Y Gofalwr yr oedd ef ei hun am ei chyfarwyddo.[21] Yn dilyn cael ei gyfweld ar BBC Radio Cymru, "...gwadodd mai cael "ei wthio" wnaeth o, ond iddo fynd oherwydd gofynion teuluol ac i ganolbwyntio ar waith creadigol arall."[21] Ychwanegodd Roberts, ynglŷn â'r beirniadu a fu ar ei 7 mlynedd yn y swydd, bod "adegau wedi gwneud i rywun ailedrych ar sefyllfaoedd ac ar raglen ond dwi hefyd yn teimlo'n bod ni wedi gwrando ac ymateb i feirniadaeth." [21] Awgrymodd hefyd efallai bod y cwmni wedi cychwyn cynhyrchu braidd yn rhy gynnar yn ei hanes.[21]

Beirniadaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Emyr Edwards yn nodi bod peth beirniadu ar gynlluniau ac arlwy cychwynol y Cymry, gan gyfeirio yn benodol at erthygl arbennig yn Barn [Tachwedd 2007] sy'n cynnwys sylwadau gan "un o feirniaid theatr craffaf yr Alban", sy'n cymharu cychwyn Theatr Genedlaethol Yr Alban yn 2006 â Theatr Genedlaethol Cymru, a pha mor wahanol oedd y ddau gwmni. Nododd bod "...yr elfennau a aeth i'r pair yn yr Alban er mwyn paratoi i sefydlu'r Theatr Genedlaethol yno, yn atgoffa dyn o rai o gyffroadau mwyaf arwyddocaol a grymus y theatr Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys Ilwyfannu cyson drydanol Theatr Bara Caws a gwefr chwyldroadol Brith Gof."[14]

Yn 2007, bu trafodaeth ar BBC Radio Cymru rhwng Gwilym Owen, Paul Griffiths, Carys Edwards a Jeremy Turner ble cyhuddwyd y cwmni newydd:

  • O fod ymhell ar ôl cwmni cenedlaethol yr Alban sydd wedi bod mewn bodolaeth am lawer llai o amser.
  • O fethu ag arloesi gyda chynyrchiadau gan ddewis yn hytrach fynd am bethau "saff".
  • Am fethu â denu actorion Cymraeg amlwg i berfformio yng Nghymru.
  • O fod wedi ei ffurfio yn dilyn trafodaethau "cul" a "phreifat".[18]

Bu beirniadu hallt gan y cyfarwyddwr Ceri Sherlock a Dafydd Llewelyn yn ogystal, yn benodol ar ôl gweld eu cynhyrchiad o Romeo a Juliet yn 2004.[22] [14] Felly hefyd gan Paul Griffiths yn Y Cymro wedi gweld eu haddasiad o Cysgod y Cryman yn 2007 ac Y Gofalwr yn 2010.[23] Beirniadol hefyd oedd Emyr Edwards yn enwedig o'r actorion ifanc a "lled brofiadol, nid y talentau grymus a ddisgwylid ar lwyfan o'r statws yma".[14]

Daeth y beirniadu i'w anterth yn 2010, yn dilyn cynhyrchiad Cefin Roberts o Y Gofalwr. Mae Emyr Edwards yn rhoi'r bai yn rhanol am y "[c]ynulleidfaoedd tenau", ar y dewis o'r ddrama, gan nodi nad oedd "y beirniaid a'r sylwebyddion theatr yn hapus â'r cynhyrchiad ychwaith".[14]

Ysgogwyd un aelod o'r Bwrdd, Gareth Miles i wneud y sylw am gyd-destun sefydlu'r Theatr Genedlaethol yng Nghymru:

"Cymru yw Cymru ac mae'n rhaid ei chymryd fel y mae, ac nid fel y dymunem iddi fod. Siomwyd Saunders Lewis am nad Ffrainc mohoni, Ian Rowlands am nad Iwerddon ydyw, Ceri Sherlock am nad yw'n wtopia Lychlynnaidd a Paul Griffiths am na chaiff ynddi yr arlwy theatrig y mae'n ei fwynhau yn Llundain".[14]

2011 - 2022

[golygu | golygu cod]

Cyn penodi yr actor a'r cyfarwyddwr Arwel Gruffydd yn 2011, gwahoddwyd sawl cyfarwyddydd gwadd i gyflwyno gwaith gyda'r cwmni gan gynnwys Tim Baker [Gwlad yr Addewid (2010], Betsan Llwyd [Dau.Un.Un.Dim ac Yn y Trên (2010)] ac Elen Bowman [Deffro'r Gwanwyn (2011)].[2]

Cafodd Gruffydd ei benodi ym mis Chwefror 2011 gan ddatgan o'r cychwyn y byddai'n "cydweithio â chwmnïau drama eraill er mwyn cael y rhaglen orau o ddrama i gynulleidfoedd".[24] Enwodd Sherman Cymru fel un cwmni, yn ogystal ag "archwilio partneriaeth" gyda National Theatre Wales.[24] Cyfaddefodd bwysigrwydd "edrych i'r dyfodol gyda hyder, bod yn ddyfeisgar yn y ffordd y byddwn ni'n cyflwyno theatr a'r ffordd yr ydym yn ymwneud â Chymru a'i gwahanol gymunedau".[24]

Cynhyrchiad cyntaf Gruffydd oedd ail-lwyfanniad o'r cynhyrchiad Llwyth gafodd ei lwyfannu ganddo yn Sherman Cymru yn Ebrill 2010.[25] Bu'r cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol, gan deithio i Lundain ac i'r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin. Diweddodd ei gyfnod gyda dilyniant i'r ddrama sef Tylwyth yn 2022.[26] Nododd y beirniad theatr Lowri Haf Cooke, "gamp" "...Tylwyth – fel ei rhagflaenydd Llwyth – sef y cydbwysedd o oleuni a thywyllwch. [...] Gwelwyd newid anferthol dros y ddegawd ddiwethaf mewn agweddau cymdeithasol – ond wrth aeddfedu, mae’n deg i oedi, i anadlu ac adlewyrchu ar wir les ein cymuned ni. Yng Nghymru bu Dafydd James yn rhan hollbwysig o’r chwyldro hwnnw, wrth groesawu pawb i loddest bersonol ei benglog ef."[26]

Ymhlith uchafbwyntiau eraill cyfnod Gruffydd wrth y llyw mae ei gynyrchiadau a lwyfannwyd ar leoliad, tu hwnt i furiau'r theatrau traddodiadol. Mae'r cynyrchiadau'n cynnwys

Ar gefn rhaglen un o gynyrchiadau 2018, nodwyd mai "creu profiadau theatr beiddgar, uchelgeisiol, cynhwysol a chofiadwy wrth galon ein cymunedau" oedd bwriad y cwmni, a hynny "mewn canolfannau theatr traddodiadol a lleoliadau annisgwyl ledled Cymru a thu hwnt."[27] Bu'r cwmni yn llwyddianus sawl gwaith yng Ngwobrau Theatr Cymru a gynhaliwyd rhwng 2013 a 2018.

Sefydlodd Gruffydd nifer o bartneriaethau strategol gyda sawl sefydliad arall, fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac S4C, yn ogystal â'r adnodd mynediad iaith, Sibrwd. yn 2015.[28] Cafwyd llwyfanniad o sawl sgript fuddugol Y Fedal Ddrama ar faes yr Eisteddfod, gan gynnwys La Primera Cena (2015), Estron (2017 a 2018), Milwr yn y Meddwl (2018), X (2019) ac Adar Papur (2020) yn ogystal â darlleniadau o weithiau buddugol eraill. Llwyfannwyd addasiad Geraint Løvgreen o ddrama Florian Zeller, Y Tad (2018) a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth "trosi drama i'r Gymraeg" yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy 2016.[29]

Ar ôl 11 mlynedd yn arwain y cwmni, ymddiswyddodd Arwel Gruffydd ym mis Mai 2022 gan nodi bod y cyfnod "...wedi bod yn heriol ar adegau, wrth reswm – nid lleiaf felly dros y flwyddyn ddiwethaf [cyfnod Covid 19] – ond mae hefyd wedi bod yn bleser pur [...] rwy’n edrych ymlaen at ystod o gynlluniau a chyfleoedd newydd ac amrywiol i’r dyfodol, a fydd yn fy herio ac yn fy ysbrydoli, a lle medraf roi ar waith y sgiliau ’rwyf wedi’u datblygu a’r profiadau ’rwyf wedi’i mwynhau yn ystod fy amser gyda Theatr Gen."[30]

Theatr Gen Creu

[golygu | golygu cod]

Yn 2018, sefydlwyd menter newydd o'r enw 'Theatr Gen Creu' gyda'r bwriad o "[g]efnogi talent" a "datblygu crefft y theatr" gan greu "cyfleoedd arbennig i artistiaid yng Nghymru".[27] Ymysg y cynyrchiadau cychwynol roedd dwy ddrama a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Fedal Ddrama : Estron gan Hefin Robinson yn 2016, a Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos yn 2017.[27] Cyflwynwyd "gwaith-ar-waith" hefyd oedd yn cynnwys y cynhyrchiad Nyrsus (2018) a Dwy [dwy ddrama ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd] (2018).[27] Dechreuwyd ar gynlluniau hyfforddi a mentora yn ogystal, oedd yn cynnwys "mentora Cyfarwyddwyr a Gwneuthurwyr Theatr" a "Grŵp Awduron".[27]

Creu yn y Cyfnod Clo

[golygu | golygu cod]

Bu Gruffydd yn gyfrifol am arwain y cwmni "trwy un o’r cyfnodau anoddaf yn ei hanes, sef cyfnod y pandemig byd-eang". [28] Gyda'r theatrau wedi'u cau a chynyrchiadau byw wedi'u canslo, cyflwynodd y cwmni raglen ddigidol "er mwyn cefnogi artistiaid a gweithwyr theatr Cymru yn ystod yr argyfwng".[28] Yn ôl gwefan y cwmni, roedd y rhaglen ddigidol yn cynnwys "8 darn newydd o waith digidol, yn cynnwys 3 pherfformiad byw, gan hefyd ryddhau 9 ffilm o'n harchif a chynnal 132 o sgyrsiau a sesiynau cyfranogi."[31] Ymysg y gwaith digidol mae'r dramâu Adar Papur (2020) gan Gareth Jones-Evans;[32] Fy Ynys Las (2020) gan Eddie Ladd; [33] ac O Ben’groes at Droed Amser (2020) gan Karen Owen, gyda Maggie Ogunbanwo.[33]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

2000au

[golygu | golygu cod]

2010au

[golygu | golygu cod]
Clawr y ddrama 2015
Rhaglen Y Tad (2018)

2020au

[golygu | golygu cod]
Cyfnod y Pandemig
[golygu | golygu cod]
    • Adar Papur (2020) gan Gareth Jones-Evans; cyfarwyddydd Branwen Davies [32]
    • Fy Ynys Las (2020) gan Eddie Ladd [33]
    • Er Cofid 19 (2020) gan Er Cof ar y cyd â National Theatre Wales mewn partneriaeth gyda BBC Cymru a BBC Arts [33]
    • O Ben’groes at Droed Amser (2020) gan Karen Owen, gyda Maggie Ogunbanwo.[33]
    • Dramâu Micro (2020) ar y cyd â BBC Cymru : Carys ac Andy gan Elin Gwyn; cyfarwyddydd Ffion Dafis.[37];
    • Enfys (2020) - pedair ffilm ddigidol fer gan Melangell Dolma[38]
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie (2020) gan Mared Roberts mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd; cyfarwyddwr Gethin Roberts[39]
    • Rhyfeloedd y Rona (2021) cynhyrchiad digidol ar y cyd ag Academi Leeway.[40]
  • Gwlad yr Asyn (2021 a 2022) sioe deuluol mewn cyd-gynhyrchiad ag Os Nad Nawr gan Wyn Mason; cyfarwyddwr Steffan Donnelly.
  • Anfamol (2021) gan Rhiannon Boyle; cyfarwyddydd Sara Lloyd ar y cyd â Sherman Cymru.
  • Faust + Greta (2021) wedi'i ysgogi gan addasiad T. Gwynn Jones o waith Goethe; cyfarwyddyddion Nia Lynn a Gethin Evans.
  • Petula (2022) gan Fabrice Melquiot addasiad Daf James; cyfarwyddydd Mathilde López. Cyd-gynhyrchiad â National Theatre Wales ac August 012.
  • Tylwyth (2022) gan Daf James; cyd-gynhyrchiad â Theatr y Sherman; cyfarwyddwr Arwel Gruffydd.

Cyfnod Steffan Donnelly

[golygu | golygu cod]
  • Pijin (2023) sioe i blant mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Iolo a Pontio gan Alys Conran addasiad Bethan Marlow; cyfarwyddwr Lee Lyford.
  • Parti Priodas (2023, 2024 a 2026) gan Gruffudd Owen; cyfarwyddwr Steffan Donnelly.
  • Yr Hogyn Pren (2023) sioe bypedau deuluol gan Owain Gwynn, Eildyr Jones a Theatr Byd Bychan; cyfarwyddydd Melangell Dolma.
  • Rwan Nawr (2023) dramâu byr mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Clwyd gan Llyr Titus, Hannah Daniel, Mali Ann Rees, Manon Steffan Ros a Kallum Weyman; cyfarwyddyddion Rhian Blythe a Daniel Lloyd.
  • Rhyngom (2023) 2 fonolog o'r gyfrol gan Sioned Erin Hughes; cyfarwyddydd Iola Ynyr.
  • Rhinoseros (2023) gan Eugène Ionesco addasiad Manon Steffan Ros; cyfarwyddwr Steffan Donnelly. [41]
  • Swyn (2023) sioe i blant gan Krystal S. Lowe; cyfarwyddydd Rhian Blythe [42]
  • Kiki Cymraeg (2023) perfformiad 'scratch' gan Nina Bowers, Leo Drayton a Lauren Morais ar y cyd â Welsh Ballroom Community; cyfarwyddwyr Duncan Hallis a Steffan Donnelly.
  • Ie Ie Ie (2024) i bobol ifanc yn eu harddegau gan Elanor Bishop a Karin McCracken, addasiad Lily Beau ar y cyd ag Aurora Nova; cyfarwyddydd Juliette Manon.
  • Brên. Calon. Fi (2024 a 2025) monolog gan Bethan Marlow; cyfarwyddydd Rhiannon Mair [43]
  • Ha/Ha (2024) dramâu byr mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Clwyd gan Caryl Burke, Mari Elen Jones, Geraint Lewis, Gruffydd Siôn Ywain; cyfarwyddyddion Rhian Blythe and Steffan Donnelly.
  • Fy Enw i yw Rachel Corrie (2024) monlog yn seiliedig ar waith llenyddol Rachel Corrie wedi'i gasglu gan Alan Rickman a Katharine Viner; addasiad Cymraeg Menna Elfyn; cyfarwyddwr Steffan Donnelly.
  • Dawns y Ceirw (2024) sioe deuluol mewn cyd-gynhyrchiad â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gan Casi Wyn; cyfarwyddwyr Steffan Donnelly a Matthew William Robinson [44]
  • Byth Bythoedd Amen (2025) monolog gan Mared Jarman; cyfarwyddydd Rhian Blythe [45]
  • Huw Fyw (2025 a 2026) gan Tudur Owen; cyfarwyddwr Steffan Donnelly.
  • Wrecslam! (2025) dramâu byr mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Clwyd: cyfarwyddyddion Rhian Blythe a Daniel Lloyd:
    • Ar y Ffin gan Gruffydd Siôn Ywain
    • Paid Anghofio dy Ffôn gan Llinos Gerallt
    • Cynhadledd i'r Wasg gan Mel Owen
    • Treulio gan Mirain Fflur
    • Rhuglddrws gan Llŷr Evans

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Taflen hysbysu Tymor y Clasuron. Theatr Genedlaethol Cymru. 2006.
  2. 1 2 3 4 "Amrywiaeth o adolygiadau ers 2003".
  3. ↑ "Adolygiad Lowri Cooke".
  4. ↑ [ ]; gweler 'Ein cenhadaeth' - Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant. Adalwyd 12 Tachwedd 2024.
  5. ↑ ruthsoltukt (2024-10-20). "Winners announced at the UK Theatre Awards 2024". UK Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-12-04.
  6. ↑ https://www.thestage.co.uk/features/the-stage-awards-2024-shortlist-producer-of-the-year
  7. ↑ "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-02-21.
  8. ↑ Morris, Steven (2025-09-25). "'The language adds a whole new level': Welsh-English version of Romeo and Juliet heads for the Globe". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-01-16.
  9. ↑ "In Autumn 2025, the Year of Wales and Japan celebrations continue with a focus on culture and the creative industries". Wales (yn Saesneg). 2025-10-06. Cyrchwyd 2026-01-16.
  10. ↑ Cyfarwyddwr cyntaf i theatr Newyddion BBC Cymru 23 Mai 2003
  11. ↑ Croesawu penodi cyfarwyddwr artistig newydd Golwg360 3 Mawrth 2011
  12. ↑ Golwg360 Mawrth 2022
  13. 1 2 3 Jones, Anwen (2013). Ysgrifau ar theatr a pherfformio. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708326510.
  14. 1 2 3 4 5 6 7 8 Edwards, Emyr (2013). Perfformio. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845274634.
  15. 1 2 "Theatr Genedlaethol i Sir Gâr".
  16. ↑ Jones, Anwen (2007). National Theatres in Context. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708319178.
  17. ↑ "THEATR GENEDLAETHOL CYMRU filing history - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-19.
  18. 1 2 "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-19.
  19. ↑ "Cyfarwyddwr cyntaf i theatr" (yn Saesneg). 2003-05-23. Cyrchwyd 2026-06-19.
  20. ↑ Griffiths, Paul (2006-04-28). "Paul Griffiths: 'Esther'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2026-06-19.
  21. 1 2 3 4 "BBC - Cymru - Cylchgrawn - Straeon - Cefin Roberts - yn gadael Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-21.
  22. ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-19.
  23. ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-19.
  24. 1 2 3 "BBC - Cymru - Cylchgrawn - Straeon - Arwel Gruffydd - cyfarwyddwr artistig newydd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-23.
  25. ↑ Griffiths, Paul (2010-04-23). "Paul Griffiths: Llwyth". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2026-06-23.
  26. 1 2 lowrihafcooke (2020-03-17). "Adolygiad Theatr: Tylwyth (Theatr Genedlaethol Cymru)". Lowri Haf Cooke. Cyrchwyd 2026-06-23.
  27. 1 2 3 4 5 Rhaglen Y Tad. Theatr Genedlaethol Cymru. 2018.
  28. 1 2 3 "Diwedd cyfnod Arwel Gruffydd fel ein Cyfarwyddwr Artistig". theatr.cymru. Cyrchwyd 2026-06-23.
  29. ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy. 2016.
  30. ↑ "Diwedd cyfnod Arwel Gruffydd fel ein Cyfarwyddwr Artistig". theatr.cymru. Cyrchwyd 2026-06-23.
  31. ↑ "Stori'r Cwmni". theatr.cymru. Cyrchwyd 2026-06-23.
  32. 1 2 Theatr Cymru (2020-08-05), Adar Papur, https://www.youtube.com/watch?v=necDDhotCqE, adalwyd 2026-06-23
  33. 1 2 3 4 5 Theatr Cymru (2020-10-21), Hysbyseb Comisiynau Digidol Newydd / New Digital Commissions Advert, https://www.youtube.com/watch?v=LC3ri7UoFKw, adalwyd 2026-06-23
  34. ↑ Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther gan Saunders Lewis. Clwyd Theatr Cymru, nos Sadwrn, Ebrill 22, 2006. Oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
  35. ↑ Theatr Cymru (2018-10-16), Hysbyseb teledu NYRSYS TV advert, https://www.youtube.com/watch?v=g_ncU5MsbSA, adalwyd 2026-06-23
  36. ↑ Theatr Cymru (2019-02-26), Nos Sadwrn O Hyd, https://www.youtube.com/watch?v=sGX54sE9Eys, adalwyd 2026-06-23
  37. ↑ Theatr Cymru (2020-06-17), Carys ac Andy, https://www.youtube.com/watch?v=widXzXYtul8, adalwyd 2026-06-23
  38. ↑ Theatr Cymru (2021-10-10), Enfys | Trailer, https://www.youtube.com/watch?v=yLcoEY0bw2A, adalwyd 2026-06-23
  39. ↑ Theatr Cymru (2020-05-27), Sgidie, Sgidie, Sgidie, https://www.youtube.com/watch?v=W4Qm9fiPY9I, adalwyd 2026-06-23
  40. ↑ Theatr Cymru (2023-04-12), Hysbyseb Rhyfeloedd y Rona/Corona Wars Trailer | Academi Leeway 2021, https://www.youtube.com/watch?v=0KzKtojZ284, adalwyd 2026-06-23
  41. ↑ Evans, Gareth Llŷr (2023-10-30). "Rhinoseros review – absurdist fable gets a Welsh twist as villagers sling the mud". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-08-11.
  42. ↑ "PIGION CELFyddydol 2023". Golwg360. 2023-12-20. Cyrchwyd 2024-08-11.
  43. ↑ Gower, Jon (2024-08-08). "Theatre review: Brên. Calon. Fi by Bethan Marlow". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-11.
  44. ↑ Wiegand, Chris (2024-11-22). "Dawns y Ceirw review – the dance of the inquisitive reindeer". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-02-21.
  45. ↑ Evans, Gareth Llŷr (2025-01-30). "Byth Bythoedd Amen review – searing drama with the edge of standup comedy". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-02-21.
  46. ↑ "'The language adds a whole new level': Welsh-English version of Romeo and Juliet heads for the Globe".

  

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]