Arwel Gruffydd
Arwel Gruffydd | |
---|---|
Ganwyd | Awst 1967 Tanygrisiau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr theatr |
Actor, cyfarwyddwr a Chyn-Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yw Arwel Gruffydd (ganwyd Awst 1967).
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]
Fe'i magwyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Yn naw oed ymunodd â band yr Oakley a cafodd y cyfle i arwain y band ambell dro.[1] Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Moelwyn ac yna Coleg Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg fel brif bwnc a cherddoriaeth fel ail bwnc. Derbyniodd radd BA yn y Gymraeg yn 1985. Wedi hynny astudiodd actio yn Webber Douglas Academy of Dramatic Arts yn Llundain.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Tra oedd dal yn fyfyriwr cafodd ran yn y ffilm Stormydd Awst gan Endaf Emlyn. Yn dilyn astudio yn ysgol ddrama Webber Douglas, cafodd waith actio mewn dramâu llwyfan, gyda Chwmni Theatr Gwynedd, Hwyl a Fflag a Bara Caws gan fynd ymlaen i gael gwaith rheolaidd fel actor ffilm, teledu a theatr. Yn ddiweddarach aeth ati i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilmiau byrion ei hun. Yn 2002 enillodd wobr Wobr D. M. Davies am un o'r ffilmiau hyn, Cyn Elo'r Haul, yng Ngwyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd.[1]
Roedd yn Rheolwr Llenyddol gyda Sgript Cymru rhwng Mawrth 2006 a Mawrth 2008 ac yna daeth yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru rhwng Mai 2008 a Ebrill 2011 lle roedd yn gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni.[2]
Fe'i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn Mawrth 2011 yn dilyn ymddiswyddiad Cefin Roberts a dechreuodd ar y gwaith ar 3 Mai.[3] Yng Ngorffennaf 2016 cyhoeddwyd bod ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei ail-benodi am bum mlynedd arall.[4]
Gwaith[golygu | golygu cod]
Actio[golygu | golygu cod]
Ffilmiau[golygu | golygu cod]
- Stormydd Awst (1987)
- Hedd Wyn (1992)
- Cylch Gwaed (1992)
- Oed Yr Addewid (2002)
Teledu[golygu | golygu cod]
- Ty Chwith (rhaglen i blant meithrin, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
- Troi a Throi (cyflwynydd rhaglen i blant iau, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
- Paradwys Ffwl (cyfres fer, 1993)
- Caffi Sali Mali (Tomos Caradog, 1990au, Sianco ar gyfer S4C)
- Chwedlau (storiwr, 1990au, Fiti-Tifi ar gyfer S4C)
- Treflan (prif gymeriad - Capten Richard Trefor, 2002-2004)
- Bob a'i Fam (prif cymeriad - Bob, 2002)
Cyfarwyddo[golygu | golygu cod]
Dramâu llwyfan[golygu | golygu cod]
- Llwyth
- Ceisio'i Bywyd Hi
- Yr Argae
- Maes Terfyn (Sherman Cymru)
- Gwe o Gelwydd (Cwmni Inc)
- Mae Sera'n Wag
- Hedfan Drwy'r Machlud (Sgript Cymru)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Dan Ganu: Holi Arwel Gruffydd. Barn (Mehefin 2011). Adalwyd ar 9 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Proffil LinkedIn. Adalwyd ar 9 Awst 2016.
- ↑ Arwel Gruffydd yn gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru , Golwg360, 1 Mawrth 2011. Cyrchwyd ar 9 Awst 2016.
- ↑ Adeiladu ar Lwyddiannau Diweddar. Theatr Genedlaethol Cymru (27 Gorffennaf 2016). Adalwyd ar 9 Awst 2016.