Cwmni Theatr Gwynedd
| Enghraifft o: | cwmni theatr |
|---|---|
| Dechreuwyd | 1986 |
| Daeth i ben | 2008 |
| Pencadlys | Theatr Gwynedd |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Cwmni theatr o Bangor oedd Cwmni Theatr Gwynedd a sefydlwyd ym 1986, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Gwynedd. Fel'i lleolwyd yn Theatr Gwynedd a agorwyd yn 1974. Daeth y cwmni i ben pan gaeodd Theatr Gwynedd yn 2008.
Cefndir byr
[golygu | golygu cod]Ymgais at ddenu cynulleidfa Cwmni Theatr Cymru, a ddaeth i ben ym 1984, oedd nôd sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd, yn ôl y dramodydd a'r darlithydd drama, Roger Owen. Ychwanegodd bod y cwmni "...â'i fryd ar adfer y math o waith a gyflwynwyd cyn 1982, pan oedd y cwmni dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts".[1] Ond bu dau ddigwyddiad nodedig yn rhan o hanes creu'r cwmni; nid yn unig methdaliad Cwmni Theatr Cymru, ond penderfyniad Cyngor y Celfyddydau ym 1981 i dorri'r grant i theatrau rhanbarthol nad oedd â chwmni theatr preswyl.
Prif nôd y cwmni o'r cychwyn oedd cyflwyno'r clasuron Cymraeg, a chafwyd cynyrchiadau llwyddianus o waith dramodwyr fel Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards. Aethpwyd ati hefyd i addasu nofelau clasurol Cymraeg gan awduron megis Daniel Owen a T Rowland Hughes, a throsiadau o glasuron theatr ryngwladol gan ddramodwyr fel Brecht, Chekhov, Ibsen a Molière. Cyflwynwyd dramâu newydd gan awduron megis Gareth F. Williams, William R. Lewis, Huw Roberts, Dewi Wyn Williams, Aled Jones Williams a Gwion Lynch.
"Math ar gwmni theatr cenedlaethol de facto" oedd y Cwmni, yn ôl Roger Owen; "Cwmni â'i wreiddiau yn ddwfn yn ei fro ei hun [...] cwmni a weithredai ar sail adnabod ei gynulleidfa'n fanwl. [...] Nid oedd fawr o wahaniaeth rhyngddo a theatrau rep rhanbarthol Lloegr, neu hyd yn oed y West End yn Llundain: roedd yn ganoledig, yn broffesiynol ac yn 'gyfreithlon'".[1]
Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd tri cynhyrchiad y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn teithio i ganolfannau led-led Cymru.[2] Oherwydd diffyg gofod yn Theatr Gwynedd ei hun, ac am nad oedd ystafelloedd ymarfer yno, lleolwyd storfeydd celfi ac ymarferion y cwmni, mewn uned ar stad ddiwydiannol ger Treborth, ar gyrion Bangor.
Yn y dyddiau cynnar, y panel ymgynghorol artistig oedd yn gyfrifol am y dewis, cyn penodi'r athrylith Graham Laker fel arweinydd artistig yn Haf 1990, nes iddo ymddiswyddo ym 1997.[3] Wedi ymadawiad Laker, gwahoddwyd sawl cyfarwyddwr gwâdd i lwyfannu cynyrchiadau gan gynnwys Ian Rowlands a Sian Summers, cyn penodi Sian yn arweinydd artistig llawn amser ym 1998. Penderfynodd Sian newid arlwy'r cwmni gan gefnu ar y Clasurol, a symud fwy fwy at ddramâu cyfoes, ysgafn a beiddgar.
Roedd y panel ymgynghorol artistig yn cynnwys actorion a dramodwyr megis J.O Roberts, John Ogwen, Grey Evans, William R. Lewis, Huw Roberts, Paul Griffiths ac Iola Ynyr.
Pan gafodd adeilad Theatr Gwynedd ei gau yn 2008, er mwyn ailddatblygu'r safle i wneud lle ar gyfer adeilad Pontio, daeth y cwmni'n ddigartref, a penderfynwyd dod â'r cwmni i ben.[4]
Cyfarwyddwyr artistig
[golygu | golygu cod]- Graham Laker (1990-1997) - cafodd ei benodi'n swyddogol fel arweinydd artistig yn Haf 1990, er ei fod wedi cyfarwyddo sawl cynhyrchiad i'w cwmni ers 1986.[3]
- Sian Summers (1998-2002)
- Ian Rowlands (2002-2003)
Rhai cynyrchiadau
[golygu | golygu cod]
1980au
[golygu | golygu cod]1986
- O Law i Law - addasiad John Ogwen o nofel T Rowland Hughes; cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd Martin Morley;[5] cast yn cynnwys John Ogwen, J.O Roberts, Beryl Williams, Grey Evans, Eric Wyn a Trefor Selway.
1987
- Gymerwch Chi Sigaret? - clasur o ddrama Saunders Lewis.
- Lle Mynno’r Gwynt - drama John Gwilym Jones; cyfarwyddwr Grey Evans; cast yn cynnwys Maureen Rhys, Stewart Jones, Janet Aethwy, Bethan Dwyfor, Tony Llewelyn, Mari Emlyn, Gareth Roberts a Gwyn Vaughan Jones.
1988
- Plas Dafydd - Huw Roberts; ffars ddwy act wreiddiol wedi'i leoli mewn hen blasdy wedi ei droi'n Glinig Adfywiad.[6]

Clawr rhaglen Y Cylch Sial
- Y Cylch Sialc - addasiad Shelagh Williams o The Chalk Circle Bertolt Brecht.
1989
- Siôn a Siân - Gareth F. Williams; drama gyfoes am gwpl ifanc ar drothwy'r Nadolig[7].
- Cyfyng Gyngor - clasur o ddrama Huw Lloyd Edwards.
- Enoc Huws (drama gerdd) - addasiad William R.Lewis, Sioned Webb a Dewi Jones o nofel Daniel Owen Enoc Huws. Cynhyrchiad yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy 1989 yn Theatr Gwynedd.[8]

1990au
[golygu | golygu cod]1990
- Leni - Dewi Wyn Williams; drama gyfoes am ddiddanwr mewn clwb nos.
- Gari Williams yn cyflwyno Llanrwst, Lloegr A Chymru gan Gari Williams a John Ogwen
1991
- Y Gelli Geirios - addasiad John Ogwen o gyfieithiad W Gareth Jones o The Cherry Orchard Anton Tshecof
- Un o'r Teulu - addasiad John Ogwen o ddrama Alan Ayckbourn.

- Dim Ond Heno - Gwion Lynch - drama fuddugol cystadleuaeth Tlws y Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991.
1992
- Excelsior - drama ddychanol Saunders Lewis.
- Y Werin Wydr - addasiad Annes Gruffydd o The Glass Menagerie Tennessee Williams.
- The Druid's Rest - Emlyn Williams - cynhyrchiad dros yr Haf o ddrama Saesneg Emlyn Williams
- Y Gosb Ddiddial - trosiad Gareth Miles o ddrama Lope de Vega - El Castigo Sin Venganza;
1993

- Golff - William R Lewis; drama newydd wedi'i leoli yn Sir Fôn ac wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr actor J.O Roberts;
- Chwith Meddwl - Richard T Jones - cyfarwyddwr Graham Laker. Trioleg o fonologau ar ffurf Talking Heads Alan Bennett
- Mae Angen Dau i Dynnu Cracyr (Olwen Medi)
- Newyddion Braf (Trefor Selway)
- Cocia Gwair A Styciau Ŷd - (Valmai Jones).[9]

- Awê Bryncoch! - Mei Jones - dathliad o'r gyfres gomedi C'mon Midffîld.[10]
1994
- Ddoe Yn Ôl - addasiad Gruffudd Parry o Ghosts Henrik Ibsen; cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; cast: Ffion Wyn Davies, Dyfed Thomas, J.O Roberts, Christine Pritchard ac Arwel Gruffydd.
- Pwy Sy'n Sâl? - trosiad o ddwy ffars gan Molière - Y Claf Diglefyd (trosiad Bruce Griffiths o Le Malade Imaginaire) a Doctor Di-Glem (trosiad Annes Gruffydd o Le Médecin Malgré Lui); cyfarwyddwyr: Graham Laker a Firenza Guidi; cynllunydd: Martin Morley; cast: Dyfan Roberts, Mari Gwilym, Nia Williams, Valmai Jones, Dafydd Dafis, Trefor Selway ac Eilir Jones[11].
1995
- Cwm Glo - J Kitchener Davies - addasiad Cymraeg ei ferch Manon Rhys. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd Jane Linz Roberts; cast: Eirlys Britton, Donna Edwards, Simon Fisher, Maria Pride, Ieuan Rhys, William Thomas a Griff Williams.[12]
- Y Tŵr - Gwenlyn Parry - John Ogwen a Maureen Rhys yn ail berfformio'r ddrama; cyfarwyddwr Graham Laker
- William Jones - addasiad Gruffydd Jones a Valmai Jones o nofel T Rowland Hughes. Cynhyrchiad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995; cast: Mici Plwm, Sian Wheldon, Jonathan Nefydd, Idris Morris Jones, Lydia Lloyd Parry, Wynfford Elis Owen, Dora Jones, Grey Evans ac Huw Emlyn; cyfarwyddwr Graham Laker.
- Sothach a Sglyfath gan Angharad Tomos, addasiad Mari Gwilym - ar y cyd â Theatr Gorllewin Morgannwg
1996
- Jeli Bebis - Miriam Llewelyn - drama fuddugol cystadleuaeth Tlws y Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Tua'r Terfyn - Iwan Edgar
1997
- Yr Aduniad - Delyth Jones
- Y Bandit, Y Barwn A'r Boi Bananas - Emlyn Gomer ac Arwel Roberts - Drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997
1998
- Pêl Goch - Aled Jones Williams - cyfarwyddwr Valmai Jones; cast: Dewi Rhys a Gwenno Elis Hodgkins
- Dyddiau Difyr - cyfieithiad Annes Gruffydd o Happy Days Samuel Beckett - cyfarwyddwr Graham Laker; cast Maureen Rhys a Trefor Selway
- Bownsars - addasiad Meirion Davies o ddrama John Godber; cyfarwyddydd Sian Summers; cast: Morgan Hopkins, Cadfan Roberts, Iwan Roberts, Rhodri Evan a Bethan Elis Owen.
- Codi Bwganod - Nic Ross a Sian Summers - cyd-gynhyrchiad ag Adran Ddrama Prifysgol Cymru gyda'r myfyrwyr a phobol o Sir Fôn.

- Tri Chryfion Byd neu Pres Mawr Penna Bach - cyfoesiad Emlyn Roberts o waith Twm o'r Nant.

1999
- Oleanna - cyfaddasiad Gareth Miles o ddrama ddadleuol David Mamet ; cyfarwyddydd Sian Summers; cast: Bethan Elis Owen a Phil Reid
- Dyn Hysbys - cyfieithiad Annes Gruffydd o Faith Healer Brian Friel; cyfarwyddydd Sian Summers; cast: Ifan Huw Dafydd, Iola Gregory ac Owen Garmon.
- Ffrwd Ceinwen - William R Lewis - cyfarwyddwr Graham Laker - drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999.
- Diwedd y Byd ac Yr Hen Blant - Meic Povey - cyfarwyddydd : Sian Summers a Bethan Jones;
- Plant Gladys - Sera Moore Williams; drama am ddau sydd ag obsesiwn am Elvis a Marilyn; cyfarwyddwr Sian Summers; cast Iwan Roberts, Siân Naomi.
- Comin Jac - Emlyn Gomer Roberts; cast Rhodri Evan, Dyfan Roberts, Ellen Salisbury, Nia Williams ac eraill.
2000au
[golygu | golygu cod]2000
- Amadeus - cyfieithiad Ken Owen o ddrama Peter Shaffer; cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd Martin Morley; ymysg y cast roedd Wynford Ellis Owen, Arwel Gruffydd a Manon Elis.
- Wal - Aled Jones Williams - cyfarwyddwr Valmai Jones; cynllunydd Katy Smith; cast Merfyn Pierce Jones a Maldwyn John
- Tiwlips - Aled Jones Williams - cyfarwyddwr Sian Summers; cynllunydd Katy Smith; cast Merfyn Pierce Jones, Maldwyn John a Valmai Jones.
- Amdani!
2001
- Dynas Ddela' Leenane - cyfieithiad o ddrama Martin McDonagh; cyfarwyddwr Ian Rowlands; cast : Rhian Cadwaladr
- Blodeuwedd gan Saunders Lewis cyfarwyddwr Ian Rowlands
2002
- Ta-Ra Teresa gan Aled Jones Williams - cyfarwyddwr Ian Rowlands.
- Ho Ho Ho gan Mike Kenny, addasiad Cymraeg Menna Elfyn - sioe i blant - cyfarwyddwr Ian Rowlands.
- Awelon addasiad llwyfan o gerddi'r Goron gan Aled Jones Williams
- Dan y Wenallt addasiad T. James Jones
2007
- Llyfr Mawr Y Plant - sioe Nadolig - addasiad o'r gyfrol (cyd gynhyrchiad efo Theatr Bara Caws).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 73. ISBN 0 7083 1793 6.
- ↑ "Cwmni Theatr Gwynedd". Theatre in Wales. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024.
- 1 2 Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Leni 1990.
- ↑ "Cau llen ar gwmni theatr". BBC Cymru. 15 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024.
- ↑ "Going freelance and Theatr Gwynedd 1985 -2010". Martin Morley: a life in theatre and tv design (yn Saesneg). 2018-09-17. Cyrchwyd 2024-08-23.
- ↑ Rhaglen Plas Dafydd Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ Rhaglen Siôn a Siân Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ Rhaglen Enoc Huws Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Chwith Meddwl.
- ↑ Rhaglen Awê Bryncoch! Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ Rhaglen Pwy Sy'n Sâl? Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ Rhaglen Cwm Glo - Cwmni Theatr Gwynedd 1995.
