Neidio i'r cynnwys

Diwedd y Byd (drama)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Diwedd y Byd (cyfrol))
Diwedd y Byd
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMeic Povey
CyhoeddwrDalier Sylw / Sgript Cymru a CAA
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Medi 2001 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9781856446297
Tudalennau192 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
ISBN-13978-1-85644-629-7 Edit this on Wikidata

Drama gan Meic Povey yw Diwedd y Byd a gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws ym 1993. Aeth Povey ati i greu dilyniant i'r ddrama yn 1999, a'i galw'n Yr Hen Blant. Cyhoeddodd Dalier Sylw / Sgript Cymru [Dalier Sylw] a'r CAA y ddwy ddrama yn 2001. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

"Ar diwrnod braf ddiwedd gwyliau'r haf [ym 1962] mae pedwar o blant y wlad - Rhi, Ems, Mags a Deio - ar antur olaf cyn symud ymlaen i'r ysgol fawr a newid byd. Ond tybed ddaw'r chwalfa ynghynt na'r disgwyl?"[2]

Mae'r ddrama yn dilyn hynt a helynt criw o blant, wrth ddod wyneb yn wyneb â chymhlethdodau a rhagrith y gymdeithas Gymreig yn ystod ail hanner yr 20g. Mae'r ail ddrama yn ail-ymweld â'r plant wedi iddynt dyfu.


Cefndir

[golygu | golygu cod]

Diflaniad Cymreictod a ffordd o fyw yn y chwedegau cynnar yw cefndir i'r ddrama. Yn ôl yr awdur ym 1993, Diwedd y Byd oedd "ei ddrama fwyaf personol eto." [3]

"Mae hi'n seiliedig ar fy mhlentyndod i yn Nant Gwynant" eglurodd Povey, "lle roeddwn i'n byw nes oeddwn i'n unarddeg. Pedwar o blant tua'r un oed a hynny sydd yma, yn byw mewn lle mynyddig, anghysbell, ynysig, digon tebyg i'r ardal lle ces i fy magu," ychwanegodd ym 1993.[3]

"Rhan o'r byd newydd dieithr fydd yr iaith Saesneg, nad oes ganddynt ond rhyw grap arni. Hunangofiannol yw hynny eto. Er fod yna lawer o dai ha' yn yr ardal, hyd yn oed yn y pumdegau, roedd siarad Saesneg yn rhywbeth estron iawn inni - fusutors oedd yr unig Saeson roeddan ni'n eu nabod."[3]

Gyda'r ddrama wedi'i gosod mewn cyfnod pan oedd y tensiwn rhwng Rwsia ac America ar ei gryfaf, a rhyfel niwclear yn fygythiad real iawn, mae yna ail ystyr i deitl y ddrama, er fod Povey yn pwysleisio nad drama boliticaidd mohoni.[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Mags
  • Rhi
  • Deio
  • Em

Cynyrchiadau Nodedig

[golygu | golygu cod]
Rhaglen y cynhyrchiad gwreiddiol ym 1993

Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Theatr Bara Caws ym 1993 gyda Meic Povey ei hun yn cyfarwyddo.[4] Cast:

Llun o gynhyrchiad Theatr Bara Caws 1993
  • Mags - Catherine Aran
  • Rhi - Siân James
  • Deio - Maldwyn John
  • Em - Merfyn Pierce Jones

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1999 o dan gyfarwyddyd Sian Summers gyda'r cast canlynol:

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  2. Theatr Bara Caws (1993). hysbyseb Bara Caws am y ddrama.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Atodiad Theatr 1. Barn. 1993.
  4. Povey, Meic (2001). Diwedd y Byd / Yr Hen Blant. Sherman Cymru.