Neidio i'r cynnwys

Lost Boys & Fairies

Oddi ar Wicipedia
Lost Boys & Fairies
Genre drama
Crëwyd gan Daf James
Cyfarwyddwyd gan James Kent
Serennu Siôn Daniel Young Fra Fee Elizabeth Berrington
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig, Cymru
Iaith/ieithoedd Saesneg Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 3
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 58 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Rhediad cyntaf yn 3 Mehefin 2024
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Mae Lost Boys & Fairies (2024) yn gyfres ddrama deledu a ddarlledwyd ar holl rwydwaith Brydeinig y BBC. Yr awdur oedd Daf James ac mae'n dilyn hanes pâr hoyw wrth iddynt fabwysiadu plentyn. Rhan o hynodrwydd y gyfres yw bod y sgript yn y Gymraeg a'r Saesneg gan adlewyrchu realiti ieithyddol y cymeriadau.[1]

Plot[golygu | golygu cod]

Fra Fee sy'n chwarae rhan Andy

Mae Gabriel (Siôn Daniel Young) ac Andy (Fra Fee), yn gwpl hoyw sydd wedi bod gyda'i gilydd ers wyth mlynedd ac yn awyddus i fabwysiadu plentyn. Mae'r ddau yn ymgymryd â'r broses fiwrocrataidd er mwyn mabwysiadu Jackie, gyda chymorth gweithiwr cymdeithasol.

Mae Andy yn gyffrous am y syniad o ddod yn dad, ond i'w bartner, Gabriel, brenhines drag, mae'r syniad yn atgas. Mae hyn nid yn unig oherwydd ei orffennol ei hun fel un bu'n gaeth i gyffuriau, ond hefyd oherwydd nad oedd ei blentyndod wedi bod yn un hapus, gyda marwolaeth annhymig ei fam, a homoffobia ei dad yn ei niweidio. Er bod y ddau eisiau mabwysiadu merch, mae Andy a Gabriel yn cyfarfod ac yn dechrau dod yn hoff o Jake, plentyn maeth a dynnwyd oddi wrth ei deulu oedd yn ei gam-drin. Fodd bynnag, ychydig cyn cwblhau'r mabwysiadu, mae Andy yn cael ei ladd yn ddamweiniol wrth geisio tawelu ffrwgwd, ac mae Gabriel, wedi'i lorio gan alar, yn cael ei adael gyda'r penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â mabwysiadu Jackie ai pheidio.

Cynhyrchu[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y gyfres ddrama ym mis Mehefin 2022.[2] Cynhyrchwyd y gyfres gan Duck Soup Films a ffilmiwyd hi yng Nghaerdydd. Mae'r awdur, Daf James, yn adnabyddus am ei ddramâu Llwyth a Tylwyth a gafodd eu llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru, mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu radio ac roedd yn un o awduron y gyfres boblogaidd S4C, Gwaith/Cartref, am bedair blynedd.

Hyrwyddo[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y trelar cyntaf ar gyfer y gyfres mini ar 23 Mai 2024.[3]

Dosbarthu[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y tair pennod wythnosol rhwng 3 a 17 Mehefin 2024 ar BBC One.[4]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Daf James yn dod â'r Gymraeg i primetime". BBC Cymru Fyw. 4 Mehefin 2024.
  2. "BBC announces new drama commission, Lost Boys and Fairies, to be filmed and set in Wales". www.bbc.com. Cyrchwyd 2024-06-03.
  3. Charlie Duncan (2024-05-23). "BBC gay drama Lost Boys & Fairies gets trailer and premiere date". PinkNews | Latest lesbian, gay, bi and trans news | LGBTQ+ news. Cyrchwyd 2024-06-03.
  4. "BBC releases premiere date and trailer for new drama Lost Boys & Fairies". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-06-03.
Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato