Endaf Emlyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Endaf Emlyn
Ganwyd 31 Gorffennaf 1944 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Man preswyl Pwllheli, Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Canwr, Cyfansoddwr, Cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am Gaucho Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Gaucho Edit this on Wikidata

Canwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilm yw Endaf Emlyn Jones (ganwyd 31 Gorffennaf 1944).[1] Roedd yn aelod o'r grwpiau Injaroc a Jîp.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Emlyn ym Mangor a'i magwyd ym Mhwllheli. Yn ei arddegau bu'n aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru ar yr un pryd a Karl Jenkins a John Cale, gan chwarae'r ffidil. Fe'i hyfforddwyd fel athro ond daeth yn adnabyddus ar ddiwedd y 1960au fel cyhoeddwr teledu gyda HTV Cymru.[1][2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n cyfansoddi ers y 1960au ac ymunodd a chwmni cyhoeddi Tony Hatch, M&M Music. Ym 1967/8 cyhoeddwyd ei record gyntaf, Paper Chains ar label Parlophone, yr un label â'r Beatles ar y pryd. Dewiswyd y gân yn record yr wythnos gan Tony Blackburn ar BBC Radio 1. Ar ail ochr y record sengl oedd Madryn a chafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn Abbey Road. Cyhoeddodd ddwy record sengl arall ar Parlophone, All My Life / Cherry Hill, a Starshine / Where were You?.[2]

Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, Hiraeth yn 1973, albwm oedd yn cyfuno dehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws.[1]

Y grŵp cyntaf iddo fod yn aelod ohono oedd Yr Eiddoch Yn Gywir gyda Hywel Gwynfryn a Derek Boote. Aeth ymlaen i fod yn aelod o'r swper grŵp Injaroc yn 1977 a'r grŵp Jîp.[1]

Yn 1974 cyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y BBC, Pobol y Cwm, ac mae'r thema wedi ei ddefnyddio mewn sawl fersiwn ers hynny.[1]

Ffilm a theledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd ei yrfa deledu fel sgriptiwr â chyhoeddwr gyda TWW ac yna yn gyflwynydd ar rhai o'r rhaglenni pop cyntaf yn y Gymraeg, yn ogystal a gweithio tu ôl y llenni fel rheolwr llawr. Yn ddiweddarach, roedd yn gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth Sgrech ar HTV Cymru ar ddiwedd y 1970au. Yn 1983 cyfarwyddodd y rhaglen ddogfen Shampŵ, a enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd.

Daeth yn gyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn yn cychwyn gyda'r ffilm Gaucho yn 1984. Sefydlodd gwmni ffilm a theledu Gaucho oedd yn weithgar iawn yn y 1990au.[3]

Yn Mai 2017 derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes - cyflwynyd y wobr iddo yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.[4]

Recordiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Endaf Emlyn
  • Hiraeth (1974, Albwm Feinyl 12", Recordiau'r Dryw WRL 537)
  • Salem (1974, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1012M)
  • Syrffio Mewn Cariad (1976, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1051M)
  • Halen Y Ddaear - gyda Injaroc (1977, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1094M)
  • Dawnsionara (1981, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1206M)
  • Dilyn Y Graen - casgliad (2001, Albwm 4 CD, Recordiau Sain SCD 2287)
  • Deuwedd (2009, Albwm CD, Recordiau Sain SCD 2603)

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4  BBC Cymru Bywyd - Endaf Emlyn. BBC. Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  2. 2.0 2.1  BBC Cymru - Cerddoriaeth - Endaf Emlyn. BBC Cymru. Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  3.  Porth - Endaf Emlyn. Coleg Cymraeg Cenedlaethol (18 Awst 2013). Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  4. Beti George i dderbyn gwobr cyfraniad oes , Golwg360, 26 Mawrth 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]