Karl Jenkins
Karl Jenkins | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Karl William Jenkins ![]() 17 Chwefror 1944 ![]() Pen-clawdd ![]() |
Label recordio | Virgin Records, Caroline Records, Deutsche Grammophon ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfansoddwr, chwaraewr sacsoffon, allweddellwr, chwaraewr obo, cerddor jazz ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Stabat Mater, Requiem, In These Stones Horizons Sing, The Armed Man – A Mass for Peace ![]() |
Arddull | jazz, roc blaengar, cerddoriaeth yr oes newydd, cerddoriaeth glasurol ![]() |
Priod | Carol Barratt ![]() |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor, honorary Fellow of the Learned Society of Wales ![]() |
Gwefan | http://www.karljenkins.com ![]() |
Cyfansoddwr Cymreig ydy Karl Jenkins OBE (ganwyd 17 Chwefror 1944, Penclawdd, Penrhyn Gŵyr).
Roedd ei dad yn athro yn yr ysgol leol ac yn organydd a meistr y côr ym Mhenclawdd. Ganddo ef y cafodd Karl Jenkins ei hyfforddiant cerddorol cyntaf. Aeth i Ysgol Ramadeg Tregwyr, ac wedyn i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle cyfarfu a'i wraig; a'r Academi Gerdd Frenhinol.
Am y rhan fwyaf o'i yrfa gynnar, adnabyddwyd ef fel cerddor jazz a jazz-roc. Bu'n chwarae amryw o offerynnau gan gynnwys sacsoffon soprano a baritôn, allweddellau ac obo. Ymunodd â grŵp o gyfansoddwr jazz Graham Collier, ac yn ddiweddarach cyd-sefydlodd y band Nucleus a enillodd y wobr gyntaf yn y Montreux Jazz Festival yn 1970. Bu'n chwarae yng Nghlwb Ronnie Scott a chwarae gyda'r band Soft Machine yn y 70au.
Cyfansoddodd gerddoriaeth i nifer o hysbysebion gan gynnwys Levi, British Airways, Renault, Volvo a Pepsi.
Erbyn hyn mae'n fwy adnabyddus fel cyfansoddwr clasurol gan dderbyn comisiynau gan y Bale Brenhinol, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Bryn Terfel, ac Evelyn Glennie.
Gweithiau cerddorol[golygu | golygu cod]
- Adiemus (1994)
- Palladio (1996)
- Imagined Oceans
- The Armed Man (1999)
- Dewi Sant
- Ave Verum
- Requiem (2005)
- The Peacemakers (2011)
- Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant (2016)