Obo
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | offeryn cerdd o deulu'r obo ![]() |
![]() |
Offeryn cerdd chwythbren yw'r obo. Mae ffurf fodern yr offeryn, a ddefnyddir mewn cerddorfeydd, wedi'i wneud o bren, ac mae tua 59 cm o hyd. Fe'i chwythir drwy frwynen ddwbl.
Dyfeisiwyd yr offeryn tua 1660 yn llys brenhinol Ffrainc, a daeth yn boblogaidd yn fuan mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Daw'r enw o'r gair Ffrangeg hautbois (yn llythrennol "pren uchel"), a drawsnewidiwyd i'r gair Eidaleg oboe (tair sillaf). Cyn tua 1770 y gair a ddefnyddiwyd yn Lloegr oedd hoboy; dadleolwyd hyn gan y gair Eidaleg wedyn (dim ond dwy sillaf).