Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg, Cymraeg |
Libretydd | Mererid Hopwood |
Dyddiad y perff. 1af | 8 Hydref 2016 |
Cyfansoddwr | Karl Jenkins |
Cyfansoddiad corawl a grëwyd gan Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan yw Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant.[2]
Cafodd y cyfansoddiad ei gomisiynu gan S4C, ac fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Hydref, 2016 a'i ddarlledu ar S4C ar 9 Hydref 2016. Ymysg cyfranwyr i'r perfformiad cyntaf oedd: Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas, Catrin Finch, David Childs, a'r feiolinydd Joo Yeon Sir.[3]
Yn ogystal â chofio'r drychineb Gymreig a'i chanlyniadau, mae hefyd yn ymdrin â galaru colli plant mewn erchyllterau eraill, megis Dunblane (1996); gwarchae ysgol Beslan (2004); trychineb fferi Corea (2014) a chyflafan Ysgol Peshawar (2014).[4]
Ar 23 Mawrth 2017 enillodd Maerid Hopwood a Syr Karl Jenkins gwobr arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant am gyfansoddi Cantata Memoria[5].
Traciau
[golygu | golygu cod]Traciau -
01. Pitran, patran
02. Then Silence
03. Cortège
04. Lament for the Valley
05. Lacrimosa Lullaby
06. Did I hear a bird?
07. Satin Feathers
08. And-a-half
09. And one upon a time
10. When the shadow dies
11. Lux aeterna.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ffotograff clawr yr Albwm gan Mark Owen (Trevillion Images).
- ↑ Cantata Memoria: gwaith “mwyaf emosiynol” Syr Karl Jenkins s4c.cymru; adalwyd 23 Hydref 2016.
- ↑ 50th anniversary of the Aberfan disaster to be marked by all-star commemorative concert in Cardiff www.walesonline.co.uk; adalwyd 23 Hydref 2016.
- ↑ Karl Jenkins commemorates Aberfan in Cantata Memoria Archifwyd 2018-12-24 yn y Peiriant Wayback boosey.com; adalwyd 23 Hydref 2016.
- ↑ Llywodraeth Cymru - Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2017[dolen farw]
- ↑ Karl Jenkins, Cantata Memoria[dolen farw]; na-nog.com; adalwyd 23 Hydref 2016.