Neidio i'r cynnwys

Treflan (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Treflan
Enghraifft o:cyfres ddrama gyfnod Gymraeg
Awduraddasiad Manon Eames o nofelau Daniel Owen
Cysylltir gydaDaniel Owen
Mathdrama deledu
Cyfarwyddwr/wyrTim Lyn
Cynhyrchydd/wyrRonw Prothero a Bethan Eames
Cwmni cynhyrchuAlfresco
Iaith wreiddiolCymraeg
SinematograffyddRory Taylor
Dynodwyr

Cyfres ddrama deledu Gymraeg ar S4C oedd Treflan, yn dilyn hynt a helynt cymeriadau Daniel Owen. Darlledwyd tair cyfres rhwng 2002 a 2006 wedi'i haddasu gan Manon Eames a'u cyfarwyddo gan Tim Lyn. Yn ôl Manon, drama sy’n uno tair o nofelau Daniel Owen yw'r gyfres sef Enoc Huws, Rhys Lewis ac Y Dreflan.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Prif gast

[golygu | golygu cod]

Cast cefnogol

[golygu | golygu cod]

(Manylion am yr holl gyfresi)

Cefndir

[golygu | golygu cod]

O fewn y cyfresi, cafwyd y cyfle i weld golwg fanwl ar fywyd y capel a’r eglwys yn ail hanner y 19eg ganrif drwy lygaid Mari Lewis a’i theulu. Ond hefyd, cafwyd y cyfle i gyfochri hynny gyda bywyd mwy seciwlar aelodau eraill o'r gymdeithas fel Wil Bryan, y teulu Bartley a Chapten Trefor. Gwelwn y stori yn datblygu dros ddegawdau wrth i Rhys Lewis ac Enoc Huws dyfu o fod yn fabanod i fod yn ddynion.

Fe ddaw’r ddau ar draws cymeriadau lliwgar iawn yn ystod eu bywydau. Drwy’r cymeriadau hynny, fe ddaw’r ddau gymeriad i ddeall eu hunain a’u llefydd yn y gymdeithas. "Ceir yma ddrama, ceir yma drasiedi, ceir yma gomedi, ceir yma nwyd a serch, ceir yma boen a galar, ceir yma gyffro a gobaith."

Ar gychwyn bob pennod, nodwyd mai "Treflan gan Manon Eames yn seiliedig ar waith Daniel Owen" oedd disgrifiad y gyfres.[2]

Mae'r gyfres yn cychwyn yn mis Hydref 1851. Mae Enoc Huws yn cael ei eni a'i fam, Elin, yn marw. Nid yw Mr Davies, tad Elin, eisiau'r babi, felly mae'n ei roi yng ngofal Mrs Amos - mam faeth gyda moesau amheus.[2] Datgelir hefyd yn y bennod gyntaf mai Capten Trefor yw tad Enoc Huws, cyfrinach sydd yn cael ei gadw tan ddiwedd y nofel wreiddiol, wrth i Enoc glosio at Siwsi Trefor, sydd [yn ddiarwybod] yn hanner-chwaer iddo.[2]

Capten Richard Trefor sef y dihiryn yn y nofel Enoc Huws, yw prif gymeriad y tair cyfres, ac yn y bennod gyntaf, fe'i gwelwn yn cyrraedd Y Dreflan ac yn sefydlu ei hun fel un o'r trigolion.

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Cwmni Alfresco oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r gyfres, a bu'n rhaid adeiladu set enfawr a phwrpasol ar gyfer y gyfres. Yr uwch gynhyrchydd oedd Ronw Protheroe, cynhyrchydd: Bethan Eames a'r cynhyrchydd gweithredol: Artie Thomas. Rory Taylor oedd yng ngofal y ffotograffiaeth a Hayden Pearce gyda'r cynllunio.

Criw Cynhyrchu

  • Cymysgydd Sain: Phil Edward, Alan Jones,
  • Polyn: Jeff Welch, Marc Walters
  • Dybio: Tim Ricketts, Marc Feda,
  • Golygwr Sain: Ian 'Spike' Banks, Paul McFadden, Simon Clement
  • Golygu Golygydd: Bronwen Jenkins, Rick Mabey,
  • Gwir olygu: Editbox; Darren Griffiths, Mwnci, Iwan Williams,

Cydnabyddiaethau Eraill

(Manylion am yr holl gyfresi)

  • Prif gynorthwydd cynhyrchu: Llinos Wyn Jones
  • Cynorthwydd 1af: Bryan Moses, Rhidian Evans
  • 2il gynorthwydd: Steffan Morris, Nerys Philip
  • 3ydd cynorthwydd: Roger Thomas, Emma Wynne-Williams
  • Cynllunydd gwisg: Nannw Jenkins, Dawn Thomas Monda
  • Goruchwiliwr gwisgoedd: Angela Jones
  • Gwisgwraig: Zoe Price
  • Cynorthwydd gwisgoedd: Gemma Evans
  • Hyfforddai gwisgoedd: Claire Tucker, Kate Bedwin
  • Cynllunydd colur: Jane Bevan
  • Artist Colur: Maire-Doris, Claire Pritchard
  • Cynorthwydd colur: Jennifer Lenard
  • Hyfforddai colur: Shoned Lloyd-Williams
  • Rhedwr: Lisa Skelding, Lucy Cohen, Steve Milne, Iwan Roberts
  • Rheolwr Lleoliadau: Iwan Roberts
  • Cyd-lynydd cynhyrchu: Menna Jones
  • Cyfrifwyr: Mike Hope, Eurof Thomas, W2
  • Ymgynghorydd: Roberts Rhys
  • Ymgynghorydd Tafodiaith: Carys Jones
  • Dilyniant: Heulwen Jones
  • Cyfarwyddwr celf: Tom Pearce, Branwen Pearce, Arwel Wyn Jones
  • Anifeiliaid: Maria Bisset, Classic Carriages, Kilvery carriage horses
  • Arlwyo: Tiger Bay Catering, Bant a la Cart
  • Diogelwch: Lockett Security
  • Adnoddau: Andy Dixon Facilities
  • Prynwr: Frazer Pearce
  • Celfi wrth law: Rory Armstrong
  • Rheolwr adeiladau: David Feeney
  • Saer: Paul Jones, Huw Pearce
  • Gosodwr: Gary Roberts, Stephen ‘Vince’ Ballinger
  • Ffocws: Steve Rees
  • Llwythwr: Chris Pearce
  • Grip: Clive Baldwin
  • Giaffar: Roy Bellett, Colin Jones
  • Technegydd Balwns: Colin Jones
  • Trydanwr: Clive Johnson, Lee Cleal, Ben Griffiths, Llŷr Evans
  • Stoc: Kodak
  • Trosglwyddo: Colour Film Services

Manylion technegol

[golygu | golygu cod]

Fformat Saethu: Super 16 Math o Sain Dolby Digital

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 4:3

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Caerdydd

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad
BAFTA Cymru Best Make-up Marie-Doris
Actor Gorau Arwel Gruffydd

Llinell Werthu’r Poster: Tref lân, tref aflan. The town with many faces.

Manylion atodol

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]
  • Owen, Daniel (1885). Hunangofiant Rhys Lewis Gweinidog Bethel, Yr Wyddgrug
  • Owen, Daniel (1995). Profedigaethau Enoc Huws; Hughes and Son Publishers Limited
  • Owen, Daniel (1922). Y Dreflan: Ei Phobl a’i Pethau; Hughes and Son Publishers Limited

Gwefannau

[golygu | golygu cod]

Adolygiadau

[golygu | golygu cod]
  • Mair, Bethan (16/11/2002). ‘Campwaith yw’r dreflan aflan hon’ yn The Western Mail

Erthyglau

[golygu | golygu cod]
  • Di-enw (12/04/2002). ‘Mold in warehouse creates drama in TV spectacular’ yn Mold and Buckley Chronicle
  • Price, Rhian (18/07/2002). ‘Adeiladu tref – Mae set deledu fwya’ Cymru yn cael ei chreu yng Nghaerdydd' yn Golwg
  • Haf, Eurgain (Hydref 2002). ‘CAMU YN ÔL I OES FICTORIA’ yn Sgrîn
  • Dafis, Lyn Lewis (Tachwedd 2002). ‘Ble mae Daniel?’ yn BARN
  • Mair, Bethan (02/11/2002). ‘Dymuno Pen-blwydd Hapus i T (i) V’ yn The Western Mail
  • Haf, Eurgain (02/11/2002). ‘Addasu i oes o ddrama’ yn The Western Mail
  • Di-enw (03/11/2––2). ‘Victoriana, virtue and vice’ yn Wales on Sunday
  • Di-enw (11/07/2002). ‘Epic set in city’ yn The Post
  • Manning, Jo (24/08/2002). ‘TV time capsule’ yn South Wales Echo
  • Jones, Hannah (21/08/2002). ‘Screen magic and all by design’ yn Arts Wales – The Western Mail
  • Haf, Eurgain (24/08/2002). ‘Camu nôl wrth gerdded ymlaen’ yn The Western Mail
  • Dafis, Lyn Lewis (Chwefror 2004). ‘Mabinogi’ yn BARN

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Treflan". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-09-26.
  2. 2.0 2.1 2.2 Treflan. S4C. 2002.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Treflan ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.