Gwen Ellis
Gwen Ellis | |
---|---|
Ganwyd | Gwen Ellis 1954 Caernarfon, Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Prifysgol Bryste |
Galwedigaeth | actores, awdures, cyfarwyddydd a cwnselydd |
Cysylltir gyda | Hwyl a Fflag |
Priod | Wyn Bowen Harris |
Actores, awdures a chyfarwyddydd o Gymraes yw Gwen Ellis (ganwyd 1954). Bu'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers dros 40 mlynedd.[1]
Fe'i magwyd yng Nghaernarfon tan yn 8 oed, cyn symyd i Abergwaun wedi i'w thad gael ei benodi yn ddiprwy yn yr ysgol. Magodd ei diddordeb ym myd y ddrama yr ysgol uwchradd ac aeth yn ei blaen i astudio Drama a Ffrangeg ym Mhrifysgol Bryste. Wedi graddio aeth yn ei blaen i hyfforddi fel athrawes.
Bu'n portreadu mam y bardd Hedd Wyn yn y ffilm gafodd ei enwebu am Oscar, Hedd Wyn ym 1992. Roedd hi'n un o sefydlwyr cwmni theatr Hwyl a Fflag a bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru.[2]
Mae'n briod gyda'r actor Wyn Bowen Harris ac mae ganddynt un mab, Rhys.
Hyfforddodd fel Cwnselydd gyda'r elsuen Relate a bu'n rhan o'r gyfres Gwesty Aduniad i S4C.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- The Three Laws (1971-1972) Prifysgol Bryste
- The Beggar's Opera (1971-1972) Prifysgol Bryste
- Y Rhai A Lwydda (1972) Cwmni Theatr Cymru
- Gwenith Gwyn (1979) Cwmni Theatr Cymru
- Mwstwr Yn Y Clwstwr (1979) Cwmni Theatr Cymru
- Sal (1980) Cwmni Theatr Cymru
- Oedipus Frenin (1980) Cwmni Theatr Cymru
- Pont Robat (1981) Cwmni Theatr Cymru
- Gweu Babis (1981)
- Happy As A Sandbag (1983)
- Guto Nyth Cacwn (1982) Cwmni Theatr Cymru
- Go Fflamia! (1985) Hwyl a Fflag
- Elvis, Y Blew a Fi (1988) Hwyl a Fflag
- Janine (1989) Hwyl a Fflag
- Jeli Bebis (1996) Cwmni Theatr Gwynedd
- The Twits (2002)
- Be Oedd Enw Ci Tin-Tin? (2003)
- Derwen (2018)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Macsen (1983)
- Camau Troellog (1984)
- Ty'd Yma Tomi! (1985)
- Coleg (1985)
- Rhew Poeth (1987)
- Cysgodion G'dansk (1987)
- Barbarossa (1989)
- Tydi Bywyd Yn Boen (1990)
- Lleifior (1991-1994)
- Nel (1991)
- Hedd Wyn (1992)
- Halen Yn Y Gwaed (1992)
- Cabare Cwasar (1993)
- Tydi Coleg Yn Gret (1993)
- C'mon Midffîld! (1994)
- A Mind To Kill (1997)
- Y Graith (1999)
- Y Stafell Ddirgel (2001)
- Oed Yr Addewid (2001)
- Treflan (2004)
- Sunny Side Up (2005)
- Omlet (2008)
- Pobol Y Cwm (2011-2013)
- Gwaith/Cartref (2015)
- Titsh (2016)
- Y Gwyll (2014 a 2016)
- Say My Name (2017)
- 35 Diwrnod (2017)
- Rybish (2020)
- Golden Apple (2021)
- Hysbyseb y banc Halifax (2021)
- Craith (2021)
- Geronimo (2022)
- Bariau (2024)
Radio
[golygu | golygu cod]- Rhydeglwys
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Regan Talent Group | Gwen Ellis" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-14.
- ↑ "Gwen Ellis". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-14.
- ↑ "Gwen Ellis – Y Flwyddyn Aeth Heibio". Ogwen360. 2021-04-15. Cyrchwyd 2024-09-14.